Mae eich Senedd yn newid

O 2026, byddwch yn gweld rhai newidiadau i'r Senedd.

Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:

  • 96 o Aelodau: O'r etholiad ym mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn hytrach na 60.
  • System bleidleisio newydd: Bydd gan bawb sy’n 16+ un bleidlais nawr, gan ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
  • Etholaethau newydd: Bydd gan Gymru 16 o etholaethau. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
  • Rheolau newydd: Rhaid i unrhyw un sy'n sefyll etholiad fyw yng Nghymru.


Faint o Aelodau fydd gan y Senedd?

Gan ddechrau ym mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn hytrach na 60.

Ers 25 mlynedd, mae nifer yr Aelodau yn y Senedd wedi aros yr un fath, er bod ganddi fwy o gyfrifoldebau erbyn hyn, fel pwerau deddfu llawn a’r gallu i newid rhai trethi yng Nghymru.

Bydd cael mwy o Aelodau yn helpu’r Senedd i wella’r ffordd mae’n archwili ac yn herio cynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru ar faterion pwysig megis ysbytai, ysgolion a thrafnidiaeth. Bydd hyn yn rhoi llais cryfach i'ch cymuned yn y penderfyniadau hyn.

Gyda 96 o Aelodau, mae nifer y cynrychiolwyr a fydd gennych chi yn y Senedd yn cyfateb i wledydd eraill o faint tebyg i Gymru - fel yr Alban sydd â 129 o Aelodau a Gogledd Iwerddon sydd â 90.

 

Beth sy'n newydd?

Bydd pleidleiswyr yn ethol 96 o Aelodau.

Bydd gennych chi chwe Aelod yn eich cynrychioli chi yn y Senedd.

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad fod yn byw yng Nghymru.

Sut mae'r system bleidleisio yn newid?

Yn 2026, bydd y ffordd y byddwch chi’n pleidleisio yn newid.

Os ydych chi dros 16 oed, gallwch chi bleidleisio yn etholiad y Senedd yn 2026. Byddwch chi’n cael un bleidlais i ddewis cynrychiolwyr ar gyfer eich cymuned yn y Senedd.

Enw’r system bleidleisio newydd yw’r 'system rhestr gyfrannol gaeedig'. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol, yn hytrach na phobl unigol.

Bydd y papur pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth, felly byddwch chi’n dal i allu gweld dros bwy rydych chi’n pleidleisio.

Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill sedd yn y Senedd.

Bydd seddau’n adlewyrchu canran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn ei chael.

 

Beth sy'n newydd?

Bydd gennych chi un bleidlais a phapur pleidleisio i ddewis eich cynrychiolwyr yn y Senedd, yn hytrach na dwy bleidlais ar wahân fel mewn etholiadau blaenorol.

Pan fyddwch chi'n pleidleisio, byddwch chi'n dewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol i’ch cynrychioli.

O 2026 ymlaen, bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.

Sut mae etholaethau'n newid?

Bydd gan Gymru 16 o etholaethau newydd yn lle 40.

Bydd gan bob etholaeth newydd chwe Aelod, sy’n golygu y bydd cyfanswm o 96 Aelod yn cael eu hethol i’r Senedd.

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru sy'n gyfrifol am greu ardaloedd yr etholaethau newydd.

 

Beth sy'n newydd?

Bydd gan Gymru 16 o etholaethau.

Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod o’r Senedd.


Cwestiynau cyffredin

Pryd y cynhelir Etholiad 2026 y Senedd?

Cynhelir Etholiad nesaf y Senedd ar neu cyn 7 Mai 2026.

Sut yr ymgynghorwyd â phobl yng Nghymru am y newidiadau?

Mae'r newidiadau i'r Senedd wedi bod yn destun nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus. Mae'r rhai allweddol yn cynnwys:

I gael rhagor o wybodaeth am hanes diwygiadau i'r Senedd, gweler erthygl y Gwasanaeth Ymchwil: Diwygio’r Senedd – y stori hyd yma.

A fydd angen newid dyluniad y Senedd i ddarparu ar gyfer Aelodau ychwanegol?

Bydd siambr drafod y Senedd, y Siambr, yn cael ei newid i ddarparu lle ar gyfer pob un o'r 96 o Aelodau. Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ebrill 2025 ac yn cael ei gwblhau yng ngwanwyn 2026.

 

Mwy o gwestiynau cyffredin ›