Cytunwyd ar Fframwaith Rhyngwladol y Senedd ym mis Medi 2022 gan Gomisiwn y Senedd ac fe'i gweithredir gan swyddogion ar draws y sefydliad, gan gynnwys Swyddfa Breifat y Llywydd, Y Gwasanaeth Ymchwil a Phwyllgorau'r Senedd.
Mae'r Fframwaith yn sicrhau atebolrwydd, eglurder a chyfeiriad mewn perthynas â gweithgarwch seneddol rhyngwladol a ariennir gan Gomisiwn y Senedd, ac mae’n seiliedig ar yr egwyddorion sydd ynghlwm wrth y ffaith y bydd ein gweithgareddau rhyngwladol:
- Yn canolbwyntio ar fusnes y Senedd, gan alluogi’r Senedd i gyflawni ei swyddogaeth graidd, sef cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, drwy wella’r broses o gyfnewid gwybodaeth, syniadau a phrofiad; ac
- Yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd meithrin enw da sefydliadol a rhyngwladol y Senedd drwy ymgysylltu a chydweithio, boed a yw’r gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan Aelodau neu Bwyllgorau, neu a yw’n digwydd ar lefel swyddogion neu rhwng Seneddau.
Fframwaith Rhyngwladol y Chweched Senedd
Wrth weithredu'r Fframwaith, mae manylion gweithgareddau rhyngwladol, gan gynnwys adroddiadau a blogiau, yn cael eu rhannu'n rheolaidd ar y wefan hon. Mae diweddariadau ar gael yn y dolenni isod.