Darganfyddwch Stori Datganoli Cymru

Archwiliwch sut mae hunaniaeth gyfreithiol a gwleidyddol Cymru wedi esblygu, o ddeddfu cynnar o dan Hywel Dda hyd at sefydliad Senedd Cymru.

Cyfraith a Hunaniaeth Gymreig Gynnar (950–1415)

Mae gan Gymru ei thraddodiad ei hun o ddeddfu sy'n dyddio'n ôl dros fil o flynyddoedd.

Credir bod Hywel Dda wedi codeiddio ac ad-drefnu cyfraith Cymru yn y 10fed ganrif.

Daeth y cyfnod hwn i ben ar ôl gwrthryfel aflwyddiannus Owain Glyndŵr, a oedd wedi galw ynghyd seneddau cynnar ym Machynlleth a Harlech.

Undeb ac Integreiddio (1535–1830)

Yn ystod teyrnasiad Brenin Harri VIII, gwnaeth Deddfau Cyfreithiau yng Nghymru 1535 a 1542 Gymru yn rhan o deyrnas Lloegr. Roedd y Deddfau’n ymestyn cyfraith Lloegr i Gymru, ac yn nodi Saesneg fel iaith y gyfraith. Fe wnaethant hefyd sefydlu strwythurau barnwrol ar wahân i Gymru yn Llys y Sesiwn Fawr.

Etholwyd 26 o Aelodau Seneddol i Gymru yn Senedd Lloegr (a gynyddodd i 27 wedi hynny).

Pan ffurfiwyd y Deyrnas Unedig ym 1707, diddymwyd Seneddau Lloegr a'r Alban a ffurfiwyd Senedd Prydain Fawr. Ym 1801, ehangodd hyn i gynnwys Iwerddon, gan ddatblygu i fod yn Senedd y Deyrnas Unedig.

Ym 1746, o dan Ddeddf Cymru a Berwick, newidiwyd y diffiniad cyfreithiol o Loegr i gynnwys Cymru (a Berwick). Ym 1830, diddymwyd Llys y Sesiwn Faw, gan ysgubo’r nodwedd amlwg olaf o gyfraith neilltuol Cymru i ebargofiant.

Mudiadau o Blaid Ymreolaeth i Gymru (1880–1950au)

O ddiwedd y 19eg ganrif, dechreuodd galwadau gynyddu am seneddau datganoledig ledled y DU.

Ym 1881, pasiwyd Deddf Cau Tafarnau ar y Sul, sef y Ddeddf benodol i Gymru gyntaf a basiwyd gan Senedd y DU. Sefydlwyd Cymru Fydd yn 1886 i ymgyrchu o blaid ymreolaeth i Gymru.

Yn gynnar yn yr 20fed ganrif, dechreuwyd y broses datganoli gweinyddol drwy sefydlu Bwrdd Addysg Cymru ym 1907 ac, yn y pen draw, ym 1920, datgysylltu’r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.

Yn y 1950au, cyflwynodd yr ymgyrch Senedd i Gymru, dan arweiniad y Fonesig Megan Lloyd George AS, ddeiseb gyda 250,000 o lofnodion yn galw am sefydlu senedd i Gymru.

Gwrthodwyd deisebau i greu Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru gan Lywodraeth Lafur 1945-50, a ffurfiwyd Cyngor Cymru a Sir Fynwy, sef corff cynghori anetholedig, yn lle hynny ym 1948.

Ym 1951, crëwyd swydd is-weinidogol newydd gan y Llywodraeth Geidwadol yn y Swyddfa Gartref, sef swydd y Gweinidog Dros Faterion Cymreig. Cafodd y swydd ei huwchraddio i Weinidog Gwladol ym 1954.

Sylfeini Gweinyddol (1960au–1970au)

Yn dilyn etholiad cyffredinol y DU ym 1964, creodd y Llywodraeth Lafur swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym 1965 i weithredu polisi Llywodraeth y DU yng Nghymru, gan gynnwys tai, llywodraeth leol a ffyrdd, i ddechrau. Dros amser, ehangodd ei gyfrifoldebau i gynnwys addysg, iechyd a'r amgylchedd.

Ym 1965, cafodd pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn, a oedd yn gartref i gymuned Gymraeg gref, ei foddi i greu cronfa ddŵr Tryweryn. Cafodd Cyngor Dinas Lerpwl awdurdod trwy Ddeddf Seneddol i greu'r gronfa ddŵr, gan gwyro heibio awdurdodau cynllunio Cymru ac osgoi ymchwiliad cyhoeddus. Roedd dinistrio un o'r cymunedau uniaith Cymraeg olaf yn ddadleuol dros ben.

O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967, diddymwyd rhan o Ddeddf Cymru a Berwick ac ehangodd y defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus.

Ym 1973, argymhellodd Comisiwn Kilbrandon y dylid creu cyrff etholedig ar gyfer Cymru a'r Alban. Fodd bynnag, mewn refferendwm a gynhaliwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 1979, gwrthododd etholwyr Cymru gynlluniau datganoli o fwyafrif o 4 i 1.

Refferenda a Gwrthwynebiad (1979–1997)

Daeth datganoli yn fater gwleidyddol cwsg yn yr 1980au. Serch hynny, o ganlyniad i bolisïau Llywodraeth Geidwadol y DU yn ystod cyfnod o anawsterau economaidd, ynghyd â lefelau isel o gefnogaeth i’r Ceidwadwyr yng Nghymru, cafwyd galwadau o’r newydd am sefydliad democrataidd penodol i Gymru. 

Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd pwerau'r Swyddfa Gymreig i dyfu, a dirprwywyd llawer o swyddogaethau cyhoeddus i gyrff hyd braich a elwir yn cwangos. Ysgogodd y datblygiadau hyn alwadau cynyddol am fwy o atebolrwydd.

O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, rhoddwyd sail gyfreithiol gyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg ac fe ddiddymwyd Deddfau Cyfreithiau yng Nghymru'r 16eg ganrif.

Ond erbyn 1997, roedd barn y cyhoedd wedi newid. Pasiwyd ail refferendwm gyda mwyafrif o 6,721 pleidlais yn unig, gan arwain at greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ym 1998, pasiodd Senedd y DU Ddeddf Llywodraeth Cymru, gan sefydlu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y Cynulliad. Roedd y Ddeddf yn ymgorffori nifer o werthoedd, gan gynnwys cydraddoldeb, datblygiad cynaliadwy, gweithredu ar sail partneriaeth a thriniaeth gyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg. Rhoddodd bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd penodol gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, addysg, tai a phriffyrdd.

Sefydlu'r Cynulliad (1999–2006)

Roedd y Cynulliad newydd yn seiliedig ar wleidyddiaeth fwy cynhwysol a chydsyniol, ac roedd sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad at ei waith yn flaenoriaeth. Fodd bynnag, cafwyd problemau yn sgil ei strwythur fel un corff corfforaethol a oedd yn gyfrifol am swyddogaethau gweithredol a swyddogaethau craffu ill dau.

O ganlyniad i’r galwadau niferus am newid, cytunodd y Cynulliad ar benderfyniad yn 2002 i wahanu swyddogaethau’r weithrediaeth a’r ddeddfwrfa. Dechreuwyd defnyddio'r term 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' i ddisgrifio’r Cabinet, gan ganiatáu i’r term ‘Cynulliad Cenedlaethol’ gyfeirio at waith craffu a gwaith cynrychioliadol y ddeddfwrfa.

Argymhellodd Comisiwn Richard, a sefydlwyd yn 2002, y dylid gwahanu'r weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn gyfreithiol, ac y dylid datganoli pwerau deddfu sylfaenol i Gymru, ynghyd â chynyddu nifer yr Aelodau. Derbyniwyd yr argymhellion hyn i raddau helaeth a'u deddfu drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Agorwyd adeilad y Senedd yn swyddogol gan ei Mawrhydi y Frenhines ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006.

Ehangu Pwerau (2007–2020)

Yn y blynyddoedd ar ôl diwygiadau 2006 gwelwyd cyfres o ddatblygiadau sylweddol a ehangodd bwerau a chyfrifoldebau'r Cynulliad:

  • 2007: Cafodd Aelodau'r Cynulliad bwerau i wneud deddfwriaeth sylfaenol.
  • 2010: Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa untro, gan arwain at ostyngiad yn eu defnydd o tua 75%.
  • 2011: Rhoddodd trydydd refferendwm bwerau deddfu llawn mewn meysydd datganoledig.
  • 2012–2014: Argymhellodd Comisiwn Silk bwerau ariannol a deddfwriaethol.
  • 2014: Cyflwynodd Deddf Cymru bwerau dros drethiant a benthyca.
  • 2018–2019: Cyflwynwyd Deddf Cymru bwerau trethu datganoledig newydd, gan gynnwys rheolaeth rannol dros dreth incwm.
  • 2019: Cyfarfu Senedd Ieuenctid Cymru am y tro cyntaf.
  • 2020: Daeth y Cynulliad yn Senedd Cymru / Welsh Parliament, gan adlewyrchu’n llawn ei statws cyfansoddiadol. Enillodd pobl ifanc 16 a 17 oed a gwladolion tramor cymwys yr hawl i bleidleisio. Cafodd bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yr hawl i bleidleisio.

Diwygiadau Modern (2024 a Thu Hwnt)

Roedd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn nodi newid cyfansoddiadol mawr. O etholiad Senedd 2026 ymlaen, bydd pobl yng Nghymru yn defnyddio system bleidleisio newydd i ethol 96 Aelod i gynrychioli 16 etholaeth ar draws y wlad, gan adlewyrchu rôl a chyfrifoldebau cynyddol y Senedd.

 

Yn y fideo hwn, gallwn weld taith y Senedd, o’i gwreiddiau hyd at y Senedd Cymru sydd gennym heddiw.