Beth mae Aelodau o'r Senedd yn ei wneud?

Cyhoeddwyd 19/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/05/2026   |   Amser darllen munudau

 

Beth mae Aelodau yn ei wneud yn y Senedd? 

Pan mae’r Senedd yn eistedd (cyfarfod), mae'r Aelodau'n cwrdd ddwywaith yr wythnos yn y Siambr. Maent yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn archwilio cyfreithiau arfaethedig ac yn trafod materion. 

Mae'r rhan fwyaf o Aelodau hefyd yn cymryd rhan yn ein pwyllgorau. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd neu addysg, ac yn archwilio cyfreithiau neu bolisi'r llywodraeth a allai effeithio arnynt. 

Yn fras, mae ein pwyllgorau’n cynnwys Aelodau sy'n cyd-fynd â chynrychiolaeth gyffredinol y pleidiau etholedig cyfredol

 

Beth mae Aelodau'n ei wneud yn y llefydd maent yn eu cynrychioli?

Mae gan y rhan fwyaf o Aelodau swyddfa leol yn eu hetholaeth, ac maent yn cyflogi staff i'w helpu gydag ymholiadau gan eu hetholwyr.   

Bydd Aelodau'n aml yn cynnal ‘cymhorthfa'. Mae'r rhain yn sesiynau rheolaidd i unrhyw aelod o'r cyhoedd ddod i gwrdd â'u cynrychiolydd a thrafod unrhyw faterion a allai fod yn destun pryder iddynt. Mae llawer o etholwyr hefyd yn cysylltu ar-lein, neu dros y ffôn.   

Bydd Aelodau hefyd yn ymweld â busnesau, ysgolion a sefydliadau lleol eraill i geisio cwrdd â chymaint o bobl â phosibl. Mae hyn yn rhoi gwell syniad iddynt o’r materion a’r problemau bob dydd sy'n wynebu'r rhai y maent yn eu cynrychioli, a gallant eu trafod wedyn yn y Senedd.

 

Pwy yw eich Aelodau o'r Senedd