Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd (“y Cynllun”)

Cyhoeddwyd 26/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2022   |   Amser darllen munudau

Cynllun pensiwn buddion diffiniedig a ariennir yw Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd. Mae’r buddion yn seiliedig ar gyflog Aelod a pha mor hir y bu’n aelod o'r Cynllun. Bydd yr Aelodau yn cael eu cofrestru’n awtomatig yn y cynllun pensiwn oni bai eu bod yn dewis peidio. Mae'r Cynllun yn darparu pensiwn blynyddol i'w aelodau ar ôl cyrraedd oed ymddeol sy'n seiliedig ar enillion cyfartalog yr aelod yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Mae'r Cynllun hwn, ar y cyfan, yr un peth â chynlluniau seneddol eraill a chaiff ei reoli gan Fwrdd Pensiynau sy'n cynnwys pum Ymddiriedolwr. Caiff dau o'r rhain eu henwebu gan aelodau'r Cynllun, caiff dau eu penodi gan Gomisiwn y Senedd ac mae Ymddiriedolwr annibynnol proffesiynol yn gweithredu fel y Cadeirydd.

Mae'r Bwrdd Taliadau’n gyfrifol am benderfynu taliadau i Aelodau o’r Senedd, gan gynnwys cyflogau, lwfansau a darpariaeth pensiynau. Felly, mae'n gyfrifol am bennu rheolau'r Cynllun ac am bennu lefel a ffurfiau buddion yr aelodau. Mae Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am ddarparu'r adnoddau ariannol, drwy gyfrwng cyfraniad ariannol at y Cynllun. gweinyddu'r Cynllun a darparu cymorth ysgrifenyddol i'r Ymddiriedolwyr.

Mae'r Comisiwn a'r Aelodau’n talu cyfraniadau misol i'r Cynllun, yna mae cyfanswm y cyfraniadau hyn yn cael ei fuddsoddi gan Reolwr Cronfeydd Buddsoddi penodedig yr Ymddiriedolwyr. Mae'r cyfraniadau a'r elw ar y buddsoddiadau hyn yn ffurfio'r gronfa bensiwn y telir buddion pensiwn yr aelodau ohoni. Mae gan y gronfa bedwar rheolwr buddsoddi a chwe chronfa ac mae'r Ymddiriedolwyr yn monitro perfformiad y gronfa a sut y mae asedau'r Cynllun yn cael eu rhannu ar draws y buddsoddiadau a ddewisir.

 

Mae'n ofynnol i'r Cynllun gyhoeddi'r wybodaeth a ganlyn fel bod yr Aelodau a’r partïon â buddiant yn gwybod bod y cynllun yn cael ei redeg yn effeithiol.

 

Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi (“DEB”)

Mae'r Datganiad hwn yn nodi polisi'r Ymddiriedolwyr ar faterion amrywiol sy'n ymwneud â’r penderfyniadau a wneir ynghylch buddsoddiadau Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd (y "Cynllun"). Mae'r DEB yn nodi'r egwyddorion sy'n ymwneud â sut y gwneir penderfyniadau am fuddsoddiadau ac mae wedi’i lunio’n unol â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau arferion gorau.

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cynllun Pensiwn yr Aelodau

Cyhoeddir Adroddiad Blynyddol bob blwyddyn ac mae'n cynnwys gwybodaeth am sefyllfa ariannol y Cynllun, ei fuddsoddiadau a sut y maent wedi perfformio yn erbyn amcanion y Gronfa a hefyd yng nghyd-destun y cefndir economaidd a marchnad.  Mae'r Ymddiriedolwyr hefyd yn adrodd ar y fframwaith llywodraethu a'r rheolaethau mewnol sydd ar waith i reoli'r risgiau a chyhoeddi gwybodaeth am weinyddu'r Cynllun.

 

Gweinyddu’r Cynllun

Ysgrifenyddiaeth y Cynllun sy’n rheoli’r Cynllun o ddydd i ddydd fel rhan o Wasanaethau Ariannol Comisiwn y Senedd. Dylid anfon cais am unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen at Donna Davies, Ysgrifennydd y Cynllun, yn y cyfeiriad a ganlyn: Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd, Gwasanaethau Ariannol, Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd CF99 1SN. neu e-bostio Donna.Davies@senedd.cymru neu ffonio 0300 200 6523.