Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.



Etholiad y Senedd - Eich Pleidlais Gyntaf
Cyhoeddwyd 25/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/03/2021   |   Amser darllen munudau
Etholiad y Senedd - Eich Pleidlais Gyntaf
Ar gyfer Cyfnodau Allweddol 4 a 5 (CA4+)(cyflwyniad 20 munud o hyd)
Ymunwch â Thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd i gymryd rhan mewn gweithdy ar rôl y Senedd, ei phwerau a sut i gofrestru a phleidleisio o ran Etholiad y Senedd, sydd ar y gorwel. Gyda chyflwyno Pleidleisio’n 16 mlwydd oed yn etholiad y Senedd 2021, bydd hon yn sesiwn amhrisiadwy i ennyn diddordeb pleidleiswyr am y tro cyntaf yn y broses etholiadol, gan gynnwys sut i gofrestru a phleidleisio.
Bydd y cyflwyniadau hyn yn cael eu cynnal yn fyw ar y dyddiadau a ganlyn rhwng 8.50am - 9.10am. Cofrestrwch eich ysgol neu goleg heddiw, drwy’r lincs isod.
- Dydd Mercher 3 Chwefror (Saesneg) (Linc Eventbrite)
- Dydd Iau 4 Chwefror (Cymraeg) (Linc Eventbrite)
- Dydd Mawrth 23 Chwefror (Cymraeg) (Linc Eventbrite)
- Dydd Iau 25 Chwefror (Saesneg) (Linc Eventbrite)
- Dydd Llun 22 Mawrth (Cymraeg) (Linc Eventbrite)
- Dydd Mawrth 23 Mawrth (Saesneg) (Linc Eventbrite)
- Dydd Llun 12 Ebrill (Saesneg) (Linc Eventbrite)
- Dydd Gwener 16 Ebrill (Saesneg) (Linc Eventbrite)
Gellir archebu'r cyflwyniad hwn hefyd fel sesiwn breifat sy'n addas i'ch grŵp, ar unrhyw adeg, drwy lenwi ein ffurflen archebu. Mae hwn yn berffaith ar gyfer gwasanaethau ysgol / coleg neu fel cyflwyniad fel rhan o sesiwn neu ddigwyddiad ehangach.