Gweithgareddau

Cyhoeddwyd 27/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/04/2021   |   Amser darllen munudau

Yn chwilio am weithgareddau yn ymwneud â democratiaeth i wneud gyda’ch ffrindiau? Yn chwilio am ysbrydoliaeth am wersi neu sesiynau grŵp ieuenctid? Dyma rai syniadau i chi.

 

Miniffestos!

Beth am redeg ffug etholiad yn eich ysgol, coleg, neu grŵp ieuenctid?

Mae’n ddigon syml! Rhannwch i grwpiau i greu pleidiau gwleidyddol. Meddyliwch am enw i’ch plaid, eich prif flaenoriaethau, a pham ddylai eich plaid chi gael ei hethol!

 

Dadl fach

A ddylid annog i bobl yng Nghymru gael dim ond un car i bob tŷ? A ddyliad gwahardd deunydd pacio plastig o archfarchnadoedd?

Dechreuwch ddadl heddiw. Gallwch gynnal dadl ar unrhyw bryd yn yr ysgol, adref, gyda’ch teulu, neu eich ffrindiau. Dewiswch bwnc llosg o’n cardiau dadlau i ddechrau arni.

Lawrwythwch eich cardiau nawr

 

Ydych chi’n nabod eich Senedd?

Cwis ar-lein i brofi eich dealltwriaeth am y Senedd a’i hetholiadau. Gallwch chwarae fel unigolion, gyda theulu a ffrindiau, neu fel rhan o’ch gwersi. Dysgwch am y Senedd a sut mae’r penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn effeithio arnoch chi.

Rhowch gynnig ar y cwis

 

Eich Deiseb Gyntaf

Yn angerddol dros bwnc penodol ac yn awyddus i weld newid?

Un ffordd o sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yw trwy gyflwyno deiseb. Gall unrhyw un sy’n byw, gweithio neu astudio yng Nghymru gyflwyno deiseb ar bwnc sy’n dod o dan gyfrifoldebau’r Senedd.

Defnyddiwch y pecyn ‘Fi, Fy Ardal, Fy Llais’ i ddysgu mwy am y Senedd a’i phwerau a sut i greu a chyflwyno deiseb.

Lawrlwythwch nawr