Sesiwn diwrnod etholiad

Cyhoeddwyd 18/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/10/2021   |   Amser darllen munudau

Sesiwn ar gyfer pobl ifanc 11-17 sy’n cael ei chynnig i ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid wedi’i hwyluso gan Tîm Addysg y Senedd. Mae dau opsiwnar gael, yn dibynnu ar a oes gan eich ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid ymgeisydd neu beidio.

 

Mae’r sesiynau’n ffordd wych o ddysgu pobl ifanc am  Senedd Ieuenctid Cymru nesaf. Mae llawer o bobl ifanc yn aml yn ansicr ynghylch dros bwy y dylen nhw bleidleisio a pham. Byddai hystingau’n eu helpu i benderfynu pwy sy’n mynd i gael eu pleidlais yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd 2021.

 

Oes gennych chi ddisgyblion yn sefyll fel ymgeiswyr yn eich ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid? Byddai ein gwasanaeth hystingau’n ffordd dda iddyn nhw rannu beth mae’n nhw’n credu fyddai’n gwneud cynrychiolydd da.

 

1.Sesiwn sy’n addas i ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid heb ymgeiswyr:

Archebwch un o’n sesiynau Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn dysgu mwy am bwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal chi – ar gael fel sesiynau 20 munud neu 45 munud. Archebwch eich sesiwn yma heddiw. prowch ein hadnoddau arlein digidol yma.

2. Sesiwn sydd ar gael i ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid sydd ag o leiaf un ymgeisydd:

 

- Gwasanaeth hystingau (wyneb yn wyneb neu yn rhithiol) – 45 munud – 1 awr. Archebwch sesiwn heddiw

 

- Archebwch sesiwn ac fe gewch becyn marchnata am ddim i helpu addurno’r ysgol, coleg neu safle grŵp ieuenctid. Mae hefyd yn bosib lawrlwytho ein adnoddau am ddim yma.

 

- Dysgwch ragor am Senedd Ieuenctid Cymru, pwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal chi a sut mae’n bosib i ddisgyblion gymryd rhan drwy fwrw pleidlais yn yr etholiad.

 

- Oes gennych chi un neu fwy o ymgeiswyr yn eich ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid? Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu eu bod yn cymryd rhan mewn hysting yn y sesiwn. Mae hyn yn gyfle da iddyn nhw rhannu eu rhesymau dros sefyll fel ymgeisydd, ac ateb cwestiynau gan ddisgyblion neu bobl ifanc eraill.

 

- Gwahoddir Aelodau o’r Senedd i’n sesiynau addysg. Mae hyn yn golygu efallai bydd Aelod ar gael i ddod i’ch sesiwn i gyfarfod y grŵp a rhannu ‘gair o gyngor’!

 

-Ewch gam ymhellach ac annog pobl ifanc i ddefnyddio’u llais drwy gofrestru i bleidleisio. Trefnwch i bobl ifanc gael defnyddio eu ffonau symudol yn ystod y sesiwn neu dilynwch y canllawiau cam wrth gam ar gyfer cofrestru i bleidleisio. Neu efallai ei bod hi’n bosib troi ystafell cyfrifiaduron eich safle ieuenctid yn hwb cofrestru am y dydd, gan ganiatáu i bobl ifanc gofrestru i bleidleisio. (dyddiad cau pleidleisio yw 12 Tachwedd).

 

I archebu’ch sesiwn heddiw, gyrrwch e-bost at helo@seneddieuenctid.cymru