Mae athrawes yn siarad â dosbarth o blant oedran cynradd.

Mae athrawes yn siarad â dosbarth o blant oedran cynradd.

Sgwrsio am y Senedd: esbonio democratiaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd 25/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/02/2026   |   Amser darllen munudau

  • Ydych chi eisiau teimlo’n hyderus i drafod gweidyddiaeth gyda phobl ifanc?
  • Oeddech chi’n gwybod bod pawb dros 16 yn gallu pleidleisio yn etholiad y Senedd?
  • Ydych chi eisiau gwybod mwy?

Mae’n rhaglen Sgwrsio’r Senedd sy’n rhad ac am ddim wedi ei gynllunio’n benodol at addysgwyr. Y bwriad bydd i gynyddu eich hyder i siarad gyda phobl ifanc am wleidyddiaeth, pleidleisio a’r Senedd.

Yn ein sesiwn 45-munud byddwch yn dysgu am y Senedd, democratiaeth yng Nghymru, a byddwn yn eich arwain cam wrth gam ar sut i gynnal sesiwn gyda pobl ifanc.

Bydd hyn yn cael ei gynnal yn fyw ar Teams.

Ar ôl clicio ar un o’r lincs isod, detholwch y dyddiad yn y calendr ac amser y sesiwn.

 

Trafod pleidleisio ac etholiad y Senedd gyda phobl ifanc ag anableddau dysgu

Mae Anabledd Dysgu Cymru, mewn partneriaeth â Thîm Addysg y Senedd, yn cynnig sesiwn hyfforddi ar y cyd am ddim i athrawon ac ymarferwyr addysg.

Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn canolbwyntio ar sut i siarad â phobl ifanc ag anableddau a/neu anawsterau dysgu am etholiad y Senedd a phleidleisio, mewn ffordd hygyrch, gynhwysol a grymusol.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Deall y Senedd ac etholiad y Senedd mewn termau syml a hygyrch
  • Cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu i ymgysylltu â phrosesau democrataidd
  • Dulliau, iaith ac adnoddau ymarferol i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth
  • Meithrin hyder i gael sgyrsiau agored a diduedd am bleidleisio a chyfranogiad

Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio ar gyfer athrawon, arweinwyr ADY a staff addysg sy’n gweithio gyda phobl ifanc ag anableddau a/neu anawsterau dysgu. Bydd yn cynnwys enghreifftiau ymarferol a chyfleoedd i drafod.

Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly anogir archebu’n gynnar.