- Ydych chi eisiau teimlo’n hyderus i drafod gweidyddiaeth gyda phobl ifanc?
- Oeddech chi’n gwybod bod pawb dros 16 yn gallu pleidleisio yn etholiad y Senedd?
- Ydych chi eisiau gwybod mwy?
Mae’n rhaglen Sgwrsio’r Senedd sy’n rhad ac am ddim wedi ei gynllunio’n benodol at addysgwyr. Y bwriad bydd i gynyddu eich hyder i siarad gyda phobl ifanc am wleidyddiaeth, pleidleisio a’r Senedd.
Yn ein sesiwn 45-munud byddwch yn dysgu am y Senedd, democratiaeth yng Nghymru, a byddwn yn eich arwain cam wrth gam ar sut i gynnal sesiwn gyda pobl ifanc.
Bydd hyn yn cael ei gynnal yn fyw ar Teams.
Bydd dyddiadau newydd ar gyfer Sgwrsio'r Senedd yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
Trafod pleidleisio ac etholiad y Senedd gyda phobl ifanc ag anableddau dysgu
Mae Anabledd Dysgu Cymru, mewn partneriaeth â Thîm Addysg y Senedd, yn cynnig sesiwn hyfforddi ar y cyd am ddim i athrawon ac ymarferwyr addysg.
Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn canolbwyntio ar sut i siarad â phobl ifanc ag anableddau a/neu anawsterau dysgu am etholiad y Senedd a phleidleisio, mewn ffordd hygyrch, gynhwysol a grymusol.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Deall y Senedd ac etholiad y Senedd mewn termau syml a hygyrch
- Cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu i ymgysylltu â phrosesau democrataidd
- Dulliau, iaith ac adnoddau ymarferol i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth
- Meithrin hyder i gael sgyrsiau agored a diduedd am bleidleisio a chyfranogiad
Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio ar gyfer athrawon, arweinwyr ADY a staff addysg sy’n gweithio gyda phobl ifanc ag anableddau a/neu anawsterau dysgu. Bydd yn cynnwys enghreifftiau ymarferol a chyfleoedd i drafod.
Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly anogir archebu’n gynnar.
Bydd dyddiadau newydd ar gyfer Sgwrsio'r Senedd yn cael eu cyhoeddi'n fuan.