Am ddod â’ch dysgwyr neu pobl ifanc i’r Senedd ar gyfer sesiwn addysgol, gweithdy neu daith am ddim?
Mae ein rhaglenni addysg, sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd, yn ffordd benigamp o helpu i ddysgu am wleidyddiaeth Cymru.
Bydd archebion am sesiynau addysg i mewn yn y Senedd yn agor i bob grŵp o 02 Mehefin ymlaen ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-26.
Fel rhan o’n hymdrechion i ymgysylltu â phobl ifanc o oedran pleidleisio yn Etholiad y Senedd sydd ar y gorwel, bydd blaenoriaeth o ran cyfle i archebu lle ar gyfer ein sesiwn newydd “Fy Llais, Fy Mhleidlais” i ddisgyblion blwyddyn 11-13 rhwng 28 Ebrill a 23 Mai, 2025 a phob blwyddyn arall o’r 2ail o Fehefin.
Sylwch y bydd gwaith adeiladu'n cael ei wneud yn ystod 2025 i gynyddu maint Siambr drafod y Senedd. Byddwn yn gallu cyflwyno ein rhaglen addysg yn ystod y cyfnod hwn, ond gall y gwaith adeiladu hwn olygu nad yw rhai rhannau o'n hystad yr ydym yn tueddu i'w defnyddio fel rhan o'n hymweliadau addysg yn hygyrch yn ystod eich ymweliad. Ni fydd hyn yn effeithio ar ddarpariaeth cinio ond ni fydd y ddarpariaeth yma ar gael i sesiynau'r prynhawn. Hefyd, ar ôl y Pasg ni fydd modd mynychu'r Cyfarfod Llawn fel rhan o sesiynau addysg prynhawn dydd Mawrth a phrynhawn dydd Mercher. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt.
Nodwch mai uchafswm maint y grŵp yn gyffredinol yw 48 aelod, yn staff a dysgwyr/pobl ifanc. Os oes angen i chi archebu lle ar gyfer grŵp mwy neu os nad yw'r dyddiad y dymunwch ei gadw ar gael, cysylltwch â ni oherwydd weithiau y byddwn yn gallu darparu ar gyfer eich cais neu gynnig dewis arall.
Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost ar cysylltu@senedd.cymru neu drwy ffonio 0300 200 6565
Cofiwch, os ydych yn bwriadu gwneud cais am gymhorthdal teithio a allwch sicrhau bod gennych cyfrif talu yr ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid yn barod.