Rydym yn cynnal un ysgol/clwstwr o ysgolion ar gyfer pob sesiwn, ac mae chwe slot sesiwn ar gael bob wythnos.
Gall ysgolion ddewis pa thema yr hoffent i'r sesiwn ei chwmpasu o'r opsiynau isod. Er gwybodaeth, dim ond un sesiwn y gallwn ei chyflwyno fesul slot, ni waeth beth fo'r thema a ddewisir.
Rydym yn cynnig cymhorthdal teithio i helpu gyda chostau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar gyfer ymweliadau addysgol â'r Senedd, Bae Caerdydd. Os ydych yn bwriadu gwneud cais am gymhorthdal teithio, byddai'n ddefnyddiol cael y manylion cyfrif talu ar adeg archebu.
Darllenwch ein canllaw i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad.