Ar gael: 10:00-12:00 ac 13:00-15:00 ar ddydd Mawrth, Mercher a Iau
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Addas ar gyfer blynyddoedd 5 i 6.
Bydd disgyblion yn mwynhau taith a thrafodaeth am yr hyn y mae’r Senedd yn ei wneud a sut mae’n effeithio ar ein bywydau bob dydd.
Yn ystod yr ymweliad, bydd disgyblion yn dysgu am y canlynol:
- Sut mae’r Senedd yn gweithio.
- Beth yw rôl Aelod Senedd
- Gwahanol ffyrdd o godi’ch llais.
Hefyd, bydd cyfle i ddisgyblion drafod mater cyfoes.
Mae’r ymweliad hwn yn ffordd wych iddynt ddeall pwysigrwydd eu llais a sut gallant wneud gwahaniaeth.
Cysylltiadau â’r cwricwlwm
- Rwy’n gallu deall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli.
- Rwy’n gallu cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, ac rwy’n gallu rhannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned.
- Gallaf wrando’n empathig ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol.
Archebu Lle
Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.
chevron_right