Ar gael: 10:00-12:00 ac 13:00-15:00 ar ddydd Mawrth, Mercher a Iau.
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth
Yn addas ar gyfer blynyddoedd 3 a 4.
Cyfle i gael hwyl a sbri wrth gymryd rhan mewn cyfres o heriau a gweithgareddau. Bydd disgyblion yn archwilio’r Senedd gan ddefnyddio llyfryn gweithgareddau Her y Ddraig. Yn ystod yr ymweliad, bydd disgyblion yn dysgu am:
- Sut mae’r Senedd yn gweithio.
- Rôl Aelod o’r Senedd.
- Nodweddion ecogyfeillgar y Senedd.
Cysylltu â’r Cwricwlwm
- Rwy’n dechrau deall sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a pham mae rheolau.
- Rwy’n deall bod angen i ni barchu hawliau pobl eraill.
- Rwy’n cydnabod bod yr hyn dw i a phobl eraill yn ei wneud yn effeithio ar gymunedau a’r amgylchedd.
Archebu lle
Gweler y dyddiadau sydd ar gael ac archebwch eich lle heddiw.
chevron_right