Ar gael: 10:00-12:00 ac 13:00-15:00 ar ddydd Mawrth, Mercher a Iau
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth
Yn addas ar gyfer blynyddoedd 5 a 6.
Archwiliwch ddeunyddiau a nodweddion dylunio’r Senedd. Mae’r gweithgaredd hwn yn annog disgyblion i ystyried sut mae dyluniad adeiladau yn gallu helpu i ddatrys problemau amgylcheddol a sicrhau eu bod yn gynaliadwy.
Bydd disgyblion hefyd yn cael cyfle i drafod pwnc llosg.
Yn ystod yr ymweliad, bydd disgyblion yn dysgu am:
- Sut mae’r Senedd yn gweithio.
- Rôl Aelod o’r Senedd.
- Nodweddion cynaliadwy’r Senedd.
Cysylltu â’r Cwricwlwm
- Rwy’n deall ac yn gallu disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli.
- Rwy’n gallu archwilio a disgrifio priodweddau deunyddiau a chyfiawnhau eu defnydd.
- Rwy’n gallu ystyried sut y bydd fy nghynigion dylunio yn datrys problemau a sut mae hyn yn gallu effeithio ar yr amgylchedd.
Archebu Lle
Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.
chevron_right