Mae ein holl weithgareddau fel rhan o’ch ymweliad â’r Senedd yn gysylltiedig â chwricwlwm newydd Cymru. Dewch i wybod mwy am y cysylltiadau yn ein sesiynau.
Pe bawn i’n Aelod o’r Senedd
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Bydd y disgyblion yn chwarae rôl fel Aelodau o’r Senedd ac yn cwblhau cyfres o heriau trwy gydol eu dydd. | Gallaf ddeall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli. |
Ar taith o gwmpas y Senedd, bydd disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaladwy y Senedd, yn cwrdd â'u haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu mwy am waith Aelod o'r Senedd. | Gallaf gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a gallaf rannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am y Cyfarfod Llawn trwy ddefnyddio propiau. Byddant yn dysgu am rôl y Llywydd, y Prif Weinidog, Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau meinciau cefn y Senedd.Gall ysgolion hefyd ofyn i drafod pwnc o’u dewis. | Gallaf wrando ar wybodaeth am amrywiaeth o bynciau a’u deall, gan grynhoi’r prif bwyntiau.Gallaf wrando’n empathig ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol.Gallaf ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan ofyn am eglurder, strwythuro dadleuon, crynhoi ac egluro’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld. |
Mae Gen i'r Pŵer
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Beth yw dinesydd moesegol, gwybodus, gweithredol? Cyflwyniad byr sy'n gofyn i fyfyrwyr ystyried ystyr y ddemocratiaeth a sut y gallant fod yn ddinasyddion gweithredol o fewn cymdeithas ddemocrataidd. Byddant yn dysgu am wahanol enghreifftiau o ymgyrchu ac yn dysgu am ymgyrchwyr cyfoes a'u gwaith. Mewn grwpiau bach bydd myfyrwyr yn penderfynu ar ymgyrch a sut y gallai effeithio ar fater sy'n bwysig iddynt.
|
Gallaf ymgysylltu â materion cyfoes yn seiliedig ar fy ngwybodaeth a'm gwerthoedd. Rwy'n deall ac yn cydnabod fy hawliau a'm cyfrifoldebau dynol a democrataidd. Rwy'n parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaliadwyedd y Senedd, yn cwrdd â’u Haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu rhagor am faterion cyfoes a gaiff eu trafod yn y Senedd. |
Gallaf gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a gallaf rannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am y Cyfarfod Llawn yn y Senedd Trwy ddefnyddio propiau byddant yn dysgu am pa bŵerau datganoledig sydd gan y Senedd ac yn chwarae rôl Aelod mewn cyfarfod Llawn. |
Gallaf wrando ar wybodaeth am amrywiaeth o bynciau a’u deall, gan grynhoi’r prif bwyntiau. Gallaf wrando’n empathig ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol. Gallaf ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan ofyn am eglurder, strwythuro dadleuon, crynhoi ac egluro’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld. |
Y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Ymweliad â’r Senedd (Presennol)
Bydd disgyblion yn dysgu am Gyfarfod Llawn y Senedd drwy fynd i'r Siambr drafod. Bydd y disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaliadwyedd y Senedd, yn cwrdd â'u Haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu mwy am waith AS yn y Cyfarfod Llawn a Phwyllgorau. |
Rwy’n gallu deall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli.
Rwy’n gallu cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, ac rwy’n gallu rhannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned.
|
Pierhead ( Gorffennol ) Dewch i ddarganfod sut y gwnaeth yr adeilad a'i drigolion helpu lunio Bae Caerdydd o'r 1880au i’r 1950au.
Bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn gweithgareddau i'w helpu i archwilio hanes ‘Tiger Bay’ a'r Dociau. |
Rwy’n gallu disgrifio'r gwahanol ffyrdd mae gwledydd a chymdeithasau, gan gynnwys Cymru wedi cael eu llywodraethu yn y gorffennol a'r presennol.
|
Pierhead ( Dyfodol)
Fel dinasyddion gwybodus bydd dysgwyr yn meddwl yn feirniadol am broblemau a materion mewn cymdeithas drwy werthfawrogiad o ddatblygu cynaliadwy. Bydd y disgyblion yn archwilio sut y gallent chwarae rhan weithredol wrth lunio Cymru i'r dyfodol trwy lens Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ( Cymru). |
Rwy’n gallu deall canlyniadau fy ngweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill a sut mae'r rhain yn effeithio ar faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang. |
Senedd Gynaliadwy
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Taith o’r Senedd (Siambr ) Bydd y disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaliadwyedd y Senedd, yn cwrdd â’u Haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu mwy am waith Aelod o’r Senedd. |
Rwy’n gallu deall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli.
Bydd y disgyblion yn dysgu am y Cyfarfod Llawn yn y Senedd trwy ymweld â’r siambr drafod wreiddiol. Byddant yn dysgu am rôl y Llywydd, y Prif Weinidog, Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau meinciau cefn y Senedd. |
Taith o’r Senedd (llyfryn gweithgaredd) |
Rwy’n gallu archwilio a disgrifio priodweddau deunyddiau, a chyfiawnhau’r defnydd a wneir ohonyn nhw.
Rwy’n gallu cael ysbrydoliaeth o ffynnonellau hanesyddol a diwylliannol a ffynonellau eraill er mwyn dylunio.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth a’m sgiliau wrth wneud fy mhenderfyniadau dylunio er mwyn cynhyrchu canlyniadau penodol.
Rwy’n gallu ystyried sut y bydd fy nghynigion dylunio yn datrys problemau a sut y gall hyn effeithio ar yr amgylchedd. |
Gweithgaredd chwarae rôl- Canolfan yr Urdd Caerdydd |
Rwy’n gallu gwrando ar wybodaeth am amrywiaeth o bynciau a’u deall, gan grynhoi’r prif bwyntiau.
Rwy’n gallu gwrando’n empathig ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol.
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan ofyn am eglurder, strwythuro dadleuon, crynhoi ac egluro’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld. |
Ein Senedd
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Bydd y disgyblion yn dysgu am y Cyfarfod Llawn yn y Senedd Trwy ddefnyddio propiau byddant yn dysgu am rôl y Llywydd, y Prif Weinidog, Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau meinciau cefn y Senedd.
|
Gallaf ddeall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli. Gallaf wrando ar wybodaeth am amrywiaeth o bynciau a’u deall, gan grynhoi’r prif bwyntiau. Gallaf ffurfio, mynegi a thrafod fy marn fy hun ar ystod o faterion ar ôl ystyried tystiolaeth a barn pobl eraill. Gallaf gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a gallaf rannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned. |
Ymweliad gan Senedd Ysgol neu Gyngor Ysgol Gynradd
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Gweithgaredd 1 Bydd Cynghorwyr Ysgol yn dysgu am strwythur, rôl a phwerau’r Senedd a sut mae’r Senedd wedi cael effaith ar eu bywydau. Gweithgaredd 2 Bydd y cynghorwyr yn chwarae rôl fel un o bwyllgorau’r Senedd
Bydd pob Pwyllgor yn trafod mater ac yn creu map meddwl o sut y byddant yn ymchwilio i’r mater. Byddant yn trafod eu hargymhellion mewn Cyfarfod Llawn yn y siambr drafod wreiddiol. |
Gallaf ddeall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli. Gallaf ffurfio, mynegi a thrafod fy marn fy hun ar ystod o faterion ar ôl ystyried tystiolaeth a barn pobl eraill. Gallaf ddefnyddio tystiolaeth wyddonol a thechnolegol i lywio fy marn fy hun. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am y Cyfarfod Llawn yn y Senedd Trwy ddefnyddio propiau byddant yn dysgu am rôl y Llywydd, y Prif Weinidog, Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau meinciau cefn y Senedd. |
Gallaf wrando ar wybodaeth am amrywiaeth o bynciau a’u deall, gan grynhoi’r prif bwyntiau. Gallaf wrando’n empathig ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol. Gallaf ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan ofyn am eglurder, strwythuro dadleuon, crynhoi ac egluro’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaliadwyedd y Senedd, yn cwrdd â’u Haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu mwy am waith Aelod o’r Senedd. |
Gallaf gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a gallaf rannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned. |