Ymweliadau Addysgol i'r Senedd i Ysgolion Uwchradd a Colegau

Archebwch sesiynau addysgol i ddisgyblion sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm ac sydd wedi'u cynllunio i ddod â gwleidyddiaeth yn fyw a sbarduno trafodaeth.

Rydym yn cynnal un ysgol/clwstwr o ysgolion/colegau ar gyfer pob sesiwn, ac mae chwe slot sesiwn ar gael bob wythnos.   

Gall ysgolion/colegau ddewis pa thema yr hoffent i'r sesiwn ei chwmpasu o'r opsiynau isod. Er gwybodaeth, dim ond un sesiwn y gallwn ei chyflwyno fesul slot, ni waeth beth fo'r thema a ddewisir. Mae'r sesiwn 'Ein Senedd' ar gael ar brynhawn dydd Mawrth a phrynhawn dydd Mercher yn unig. 

Rydym yn cynnig cymhorthdal teithio i helpu gyda chostau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar gyfer ymweliadau addysgol â'r Senedd, Bae Caerdydd. Os ydych yn bwriadu gwneud cais am gymhorthdal teithio, byddai'n ddefnyddiol cael y manylion cyfrifyddu ar adeg archebu. 

Darllenwch ein canllaw i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad. 

 

Ymchwiliwch i’r sesiynau

Ein Senedd: Dydd Mawrth a dydd Mercher 13:00 - 14:30 i ohebu â'r Cyfarfod Llawn

Mae sesiynnau themâu ychwanegol ar gael i'w harchebu ddydd Mawrth a dydd Mercher: 10:00-12:00 a 13:00-15:00, a dydd Iau 13:00 – 15:00

Sylwch y gallwn ddarparu ar gyfer un sesiwn yn unig fesul slot amser, felly nid yw argaeledd slotiau yn wahanol beth bynnag yw'r thema a ddewiswyd. Dewiswch y lluniau isod i ddysgu mwy, ac i archebu.

Os yw'r diwrnod o'ch dewis eisoes yn llawn

Mae croeso i chi ymweld o hyd. Cysylltwch â ni os hoffech drefnu;

  • Teithiau Sain
  • Teithiau Hunan-dywys
  • Teithiau Grŵp

Mae ein teithiau grŵp ar gael i ysgolion. Mae'r teithiau yn rhad ac am ddim, ond nid oes cymhorthdal teithio ar gael ar gyfer yr archebion hyn. I ddysgu mwy, ac i archebu taith, cliciwch yma. 

Ddim yn gallu ymweld â ni? Mi ddown ni atoch chi.

Mae gennym ystod o weithdai a chyflwyniadau am ddim ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb a hwylusir gan un o'n swyddogion addysg. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalen ymweld â chi.

Fel arall, gallwch roi cynnig ar ein offeryn Taith Rithwir o'r Senedd.

Llawer o ddysgwyr hapus...

 

"Fe wnaeth y disgyblion fwynhau pob rhan. Mae’n wych bod tîm y Senedd wedi egluro popeth yn dda a bod agwedd bywyd go iawn/ymarferol/gweledol ar bopeth. 

Gwnaethom fwynhau ein hymweliad, diolch am eich amser - gwerthfawrogi'n fawr."


Cwricwlwm newydd, dim problem

Mae ein holl weithgareddau addysg yn gysylltiedig â chwricwlwm newydd Cymru.

Canfyddwch yr hyn y bydd disgyblion yn ei gael o’n holl weithgareddau yn y Senedd.

Cysylltiedig â'r cwricwlwm