Pŵer a Phrotest

Cyhoeddwyd 17/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/01/2025   |   Amser darllen munudau

Ar gael am 10:00-12:00 ar fore Mawrth, bore Mercher a bore Iau, ac am 13:00-15:00 ar brynhawn Iau. 

 

Addas ar gyfer: Blynyddoed 7-11

Hyd: 2 awr

Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd

£ Am ddim

 

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd dysgwyr yn archwilio beth mae'n ei olygu i fod yn ymgyrchydd a sut i godi eu llais mewn cymdeithas ddemocrataidd. Byddant yn ystyried ymgyrch bosibl i fynd i'r afael â mater o'u dewis. Bydd y dysgwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwarae rôl mewn dadl yng Nghanolfan yr Urdd Caerdydd.

Archebu Lle

Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.

Archebwch nawr

 


Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
  • Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp ar gyfer ymweliadau boreol yn unig.
  • Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau

 


 

Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm