Mae ein holl weithgareddau fel rhan o’ch ymweliad â’r Senedd yn gysylltiedig â chwricwlwm newydd Cymru. Dewch i wybod mwy am y cysylltiadau yn ein sesiynau.
Pŵer a Phrotest (CA3/CA4)
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Trafod ymgyrchoedd ac ymgyrchwyr amrywiol Dysgu am broses ddeisebau’r Senedd. Creu ymgyrch berthnasol ac effeithiol ar fater sy’n bwysig i’r disgyblion. |
Mae gen i ddealltwriaeth o ystod o systemau llywodraethu a sut mae pobl wedi cael eu cynrychioli ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys sut mae systemau llywodraeth yng Nghymru yn gweithredu nawr ac yn y gorffennol, a gallaf gymharu ac egluro gwahaniaethau rhwng y systemau hyn. Gallaf ddadansoddi ac egluro effaith penderfyniadau a wneir gan unigolion, llywodraethau lleol, cenedlaethol neu fyd-eang, a sefydliadau anllywodraethol ar bobl, eu hawliau a’r amgylchedd. Gallaf wneud penderfyniadau, nodi cyfleoedd a chynllunio camau priodol i leisio fy marn. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am y Cyfarfod Llawn yn y Senedd trwy ymweld â’r siambr drafod wreiddiol. Trwy ddefnyddio propiau byddant yn dysgu am rôl y Llywydd, y Prif Weinidog, Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau meinciau cefn y Senedd. Cyflwyno mater a data ar y sgrin. Cyflwyno dwy farn gyferbyniol ar y ffordd orau i fynd i’r afael â’r mater. Gofyn i’r disgyblion drafod a herio’r safbwyntiau hyn. |
Gallaf ffurfio, mynegi a thrafod fy marn fy hun ar ystod o faterion ar ôl ystyried tystiolaeth a barn pobl eraill. Gallaf gydnabod y gall barn newid dros amser. Gallaf wrando’n empathig ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol, gan eu defnyddio nhw i ddod i fy nghasgliadau fy hun. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaliadwyedd y Senedd, yn cwrdd â’u Haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu mwy am waith Aelod o’r Senedd. |
Gallaf gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a gallaf rannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned. |
Y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol (CA3)
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Ymweliad â’r Senedd (Presennol)
Bydd disgyblion yn dysgu am Gyfarfod Llawn y Senedd drwy fynd i'r Siambr drafod. Bydd y disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaliadwyedd y Senedd, yn cwrdd â'u Haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu mwy am waith AS yn y Cyfarfod Llawn a Phwyllgorau. |
Rwy’n gallu deall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli.
Rwy’n gallu cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, ac rwy’n gallu rhannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned.
|
Pierhead ( Gorffennol ) Dewch i ddarganfod sut y gwnaeth yr adeilad a'i drigolion helpu lunio Bae Caerdydd o'r 1880au i’r 1950au.
Bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn gweithgareddau i'w helpu i archwilio hanes ‘Tiger Bay’ a'r Dociau. |
Rwy’n gallu disgrifio'r gwahanol ffyrdd mae gwledydd a chymdeithasau, gan gynnwys Cymru wedi cael eu llywodraethu yn y gorffennol a'r presennol.
|
Pierhead ( Dyfodol)
Fel dinasyddion gwybodus bydd dysgwyr yn meddwl yn feirniadol am broblemau a materion mewn cymdeithas drwy werthfawrogiad o ddatblygu cynaliadwy. Bydd y disgyblion yn archwilio sut y gallent chwarae rhan weithredol wrth lunio Cymru i'r dyfodol trwy lens Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ( Cymru).
|
Rwy’n gallu deall canlyniadau fy ngweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill a sut mae'r rhain yn effeithio ar faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang.
|
Sut mae Cymru yn cael ei lywodraethu? (CA4)
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Sut mae Cymru yn cael ei lywodraethu?
Cyflwyniad Powerpoint yn archwilio beth yw’r Senedd a’r gwahaniaeth rhwng y Senedd â Llywodraeth Cymru. Bydd dysgwyr yn dechrau deal y gwahaniaethau rhwng pwerau y Senedd a Senedd y DU ac archwilio sut gall unigolion a grwpiau dylanwadu ar y broses. |
Gallaf wneud penderfyniadau, nodi cyfleoedd a chynllunio camau priodol i leisio fy marn. Gallaf egluro pwysigrwydd y rôl y mae grwpiau, llywodraethau, busnesau a sefydliadau anllywodraethol yn ei chwarae wrth greu dyfodol cynaliadwy, a sut maen nhw’n effeithio ar bobl a’u hawliau ac ar yr amgylchedd. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am y Cyfarfod Llawn yn y Senedd trwy ymweld â’r siambr drafod wreiddiol. Trafod y materion a’r syniadau a gyflwynir. Gofyn i’r disgyblion drafod a herio’r safbwyntiau hyn. |
Gallaf gyfleu fy yr hyn rwy’n ei feddwl, fy nheimladau a fy marn mewn cyd-destunau heriol a dadleuol gan ddangos empathi a pharch. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaliadwyedd y Senedd, yn cwrdd â’u Haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu mwy am waith Aelod o’r Senedd. |
Gallaf gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a gallaf rannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned. |
Ein Senedd (CA3)
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Bydd y disgyblion yn dysgu am y Cyfarfod Llawn yn y Senedd trwy ymweld â’r siambr drafod wreiddiol. Trwy ddefnyddio propiau byddant yn dysgu am rôl y Llywydd, y Prif Weinidog, Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau meinciau cefn y Senedd.
|
Gallaf ddeall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli. Gallaf wrando ar wybodaeth am amrywiaeth o bynciau a’u deall, gan grynhoi’r prif bwyntiau. Gallaf ffurfio, mynegi a thrafod fy marn fy hun ar ystod o faterion ar ôl ystyried tystiolaeth a barn pobl eraill. |
Bydd y disgyblion yn arsylwi Cyfarfod Llawn. |
Gallaf ddeall bod penderfyniadau yn gallu cael eu gwneud yn unigol ac ar y cyd, ac y gall ystod o ffactorau ddylanwadu arnyn nhw. |
Ein Senedd (CA4)
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Bydd y disgyblion yn dysgu am y Cyfarfod Llawn yn y Senedd trwy ymweld â’r siambr drafod wreiddiol. Bydd y disgyblion yn dysgu am strwythur, rôl a phwerau’r Senedd.
|
Gallaf gymharu a gwerthuso systemau llywodraethu lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys systemau llywodraeth a democratiaeth yng Nghymru, gan ystyried eu heffaith ar gymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol, a hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion yng Nghymru.
Gallaf ffurfio, mynegi a thrafod fy marn fy hun ar ystod o faterion ar ôl ystyried tystiolaeth a barn pobl eraill. |
Bydd y disgyblion yn arsylwi Cyfarfod Llawn. |
Gallaf ddeall bod penderfyniadau yn gallu cael eu gwneud yn unigol ac ar y cyd, ac y gall ystod o ffactorau ddylanwadu arnyn nhw. |
Ymweliad gan Senedd Ysgol neu Gyngor Ysgol Uwchradd
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Bydd Senedd yr Ysgol neu gynrychiolwyr y Cyngor yn archwilio'r tebygrwydd rhwng eu rolau ac Aelodau o'r Senedd. Bydd cynrychiolwyr yn chwarae rhan gwaith AS wrth iddynt efelychu Cyfarfod Llawn. |
Gallaf ddeall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli. Gallaf ystyried ffactorau a goblygiadau perthnasol wrth wneud penderfyniadau yn unigol ac ar y cyd. Rwyf wedi cynllunio a chymryd rôl weithredol mewn ymateb i heriau a chyfleoedd yn fy nghymuned leol, neu yng Nghymru neu’r byd ehangach ac rwyf wedi gwneud hynny’n unigol neu fel rhan o dîm. Gallaf gydnabod y bydd rhai penderfyniadau a wnaf yn cael effaith hirdymor ar fy mywyd a bywydau pobl eraill. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am y Cyfarfod Llawn yn y Senedd trwy ymweld â’r siambr drafod wreiddiol. Trwy ddefnyddio propiau byddant yn dysgu am rôl y Llywydd, y Prif Weinidog, Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau meinciau cefn y Senedd.
|
Gallaf wrando ar wybodaeth am amrywiaeth o bynciau a’u deall, gan grynhoi’r prif bwyntiau. Gallaf wrando’n empathig ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol. Gallaf ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan ofyn am eglurder, strwythuro dadleuon, crynhoi ac egluro’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu ei weld. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaliadwyedd y Senedd, yn cwrdd â’u Haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu mwy am waith Aelod o’r Senedd. |
Gallaf gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a gallaf rannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned. |
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Bydd y disgyblion yn dysgu am y pobl sy'n gweithio yn y Senedd ac yn dysgu am rôl eu cynrychiolwyr. Bydd y disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaliadwyedd y Senedd, yn cwrdd â’u Haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu mwy am waith Aelod o’r Senedd. |
Gallaf adnabod y Senedd Deallaf fod penderfyniadau a wneir gan fy Aelodau o'r Senedd yn effeithio ar fy mywyd.
Gallaf gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a gallaf rannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned. |
Bydd y disgyblion yn ymweld â Siambr Hywel, siambr drafod sy’n llawn offer, er mwyn lleisio'u barn. Bydd grwpiau'n defnyddio propiau i ddysgu am y Llywydd, Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac MSs eraill. Bydd dysgwyr yn defnyddio'r meicroffonau a'r dechnoleg bleidleisio i drafod pwnc. |
Gallaf sicrhau bod fy llais yn cael ei glywed. Gallaf rannu fy marn â phobl eraill. Gallaf ffurfio, mynegi a thrafod fy marn fy hun. |