Ein Senedd

Cyhoeddwyd 17/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/10/2023   |   Amser darllen munudau

Ar gael am 13:00-14:30 ar brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher.Addas ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7 i 13. ** Maint y grŵp: 40.

 

Cam Allweddol 3 & 4

Addas ar gyfer: Blynyddoedd 7 - 11

Maint y grŵp: 40 ** (Pwysig)

Hyd: 1 awr a hanner ( Ond ar gael prynhawn dydd Mawrth a phrynhawn dydd Mercher )

Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd

£ Am ddim

 

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd dysgwyr yn chwarae rôl Aelod o’r Senedd ac yn cymryd rhan mewn dadl. Hefyd, byddant yn cael gweld yr Aelodau o’r Senedd yn trafod yn y Senedd.

 

Gweithgareddau

Dechreuwch y prynhawn gyda chyflwyniad byr i'r Senedd, cyn arsylwi ar Aelodau o’r Senedd yn gweithio yn ystod y Cyfarfod Llawn.

Siambr Hywel

Bydd y disgyblion yn trafod pwnc, er enghraifft:

  • Fy Nghymru, Fy Mhlaned
  • Ffitrwydd a Lles
  • Fy Mreuddwydion
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

 

Archebu Lle

Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.

Archebwch nawr

 


Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
  • Os byddwch yn ymweld ar fore dydd Mawrth neu fore dydd Mercher, gallwch archebu tocynnau i wylio'r Cyfarfod Llawn sy'n dechrau am 13.30.
  • Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp cyn neu ar ôl yr ymweliad.
  • Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau

 


 

Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm