Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cyhoeddwyd 17/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/02/2025   |   Amser darllen munudau

Ar gael am 10:00-12:00 ar fore Mawrth, bore Mercher a bore Iau, ac am 13:00-15:00 ar brynhawn Iau.

 

Addas ar gyfer: Disgyblion ysgol uwchradd

Hyd: 2 awr

Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd

£ Am ddim

 

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd grwpiau'n cael taith o amgylch y Senedd ac yn cymryd rhan mewn ymarfer chwarae rôl wedi'i deilwra i anghenion y grŵp.

 

Gweithgareddau

Dechreuwch eich taith gyda chyflwyniad byr i'r Senedd, cyn dysgu am nodweddion cynaliadwy'r Senedd.

Bydd grwpiau'n dysgu y gall penderfyniadau a wneir gan eu cynrychiolwyr effeithio ar eu bywydau, a’u bod yn bosibl iddynt wneud gwahaniaeth.

Hefyd, bydd grwpiau'n cael darganfod mwy am waith Senedd Ieuenctid Cymru a sut mae'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael llais.

 

Archebu Lle

Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.

Archebwch nawr

 


Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
  • Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp ar gyfer ymweliadau boreol yn unig.
  • Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau

 


 

Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm