Ar gael am 10:00-12:00 ar fore Mawrth, bore Mercher a bore Iau, ac am 13:00-15:00 ar brynhawn Iau.
Addas ar gyfer: Blynyddoedd 10-13
Hyd: 2 awr
Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd y disgyblion yn deall sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu a sut mae’r Senedd yn gwneud cyfreithiau ac yn craffu ar Lywodraeth Cymru.
Bydd y disgyblion yn trafod materion cyfoes, yn gwneud argymhellion gwybodus ar gyfer newid ac yn cyfiawnhau eu penderfyniadau gwleidyddol gan ddefnyddio dadansoddiad PESTLE fel offeryn ar gyfer newid.
Chwarae rôl wrth gymryd rhan mewn dadl yn y siambr drafod wreiddiol.
Gweithgareddau
Dechreuwch eich ymweliad gyda thaith o amgylch y Senedd, ac yna gweithgareddau yn y ganolfan addysg - Siambr Hywel.
Siambr Hywel
Bydd y disgyblion yn trafod pwnc yn y siambr drafod wreiddiol - cyn cymryd rhan mewn gweithgaredd i drafod mater gan ddefnyddio dadansoddiad PESTLE fel dull.
Archebu Lle
Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.
chevron_right
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
- Os byddwch yn ymweld ar fore dydd Mawrth neu fore dydd Mercher, gallwch archebu tocynnau i wylio'r Cyfarfod Llawn sy'n dechrau am 13.30.
- Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp cyn neu ar ôl yr ymweliad.
- Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau
Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm