Cynlluniwch eich Ymweliad

Cyhoeddwyd 26/01/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/04/2023   |   Amser darllen munudau

Gwybodaeth bwysig cyn i chi ymweld

Bydd Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn goruchwylio eich ymweliad â Senedd Cymru a bydd yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnoch. 

Bydd pob ymweliad yn cychwyn yn y Senedd. 

Mae’n hanfodol eich bod yn brydlon er mwyn mynd drwy’r gweithdrefnau diogelwch. Mae hyn yn gallu cymeryd 10-15 munud.

Bydd yr ymweliad yn dechrau gyda thaith dywys o amgylch y Senedd cyn symud ymlaen i’r Ganolfan Addysg ar lawr gwaelod Tŷ Hywel. Mae’r ganolfan yn cynnwys siambr drafod fawr ar gyfer pobl ifanc (Siambr Hywel) ac ystafell ddosbarth fawr ac ystafell ginio gyfagos.

 


Asesiad Risg

Mae’r Senedd wedi cynnal Asesiad Risg cyffredinol ar gyfer cyfnodau y bydd ysgolion yn ymweld â safle’r Senedd, a hynny o dan arweiniad y Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc. Byddwn yn anfon copi o'r Asesiad Risg atoch ar ôl cwmblau y broses archebu. Rhaid i Arweinwyr Grwpiau ddarllen yr asesiad hwn yn fanwl, sicrhau eu bod yn deall y mesurau rheoli a'r gofynion a osodir ar y grŵp, ac yn dychwelyd copi wedi'i lofnodi i archebu@senedd.cymru 

 

Goruchwyliaeth a Maint y Grŵp  

Mae holl aelodau’r Tîm Addysg yn athrawon neu’n weithwyr ieuenctid cymwysedig sydd hefyd wedi cael hyfforddiant priodol yn unol â gweithdrefnau hyfforddi Senedd Cymru.  

Mae aelodau’r Tîm yn gwisgo bathodynnau adnabod sy’n dangos yn glir eu bod yn aelodau o staff y Senedd. 

Y grŵp mwyaf o ran niferoedd a ganiateir gan y Senedd yw 85 o staff a disgyblion. Os bydd angen i chi archebu ar gyfer grŵp mwy, cysylltwch â ni oherwydd mae’n bosibl y gallwn ddarparu ar eich cyfer.

Mae’n hanfodol bod disgyblion yn cael eu goruchwylio’n ddigonol yn ystod eu hymweliad â’r Senedd. Cyfrifoldeb Arweinydd y Grŵp sy’n ymweld yw sicrhau bod lefel briodol o oruchwyliaeth ar bob adeg. Dylai’r oruchwyliaeth honno gydymffurfio â gofynion unrhyw Awdurdod Addysg Lleol. 

Ni ddylai’r staff sy’n goruchwylio adael eu grŵp heb oruchwyliaeth ar unrhyw adeg. 

Gwybodaeth i Ddisgyblion  

Cyn yr ymweliad, yn ogystal â’r canfyddiadau a nodwyd yn eich asesiad risg eich hun, dylid rhannu cynnwys asesiad risg cyffredinol y Senedd â’r disgyblion a’r staff a fydd yn dod ar yr ymweliad. Ar y lleiaf, dylai’r disgyblion ddeall y pwyntiau a ganlyn:  

  • Diben ac amcanion yr ymweliad 
  • Y peryglon a nodwyd ac unrhyw gamau rhagofalu a drefnwyd  
  • Safon yr ymddygiad a ddisgwylir  
  • Pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau Arweinydd y Grŵp a staff Senedd Cymru  
  • Pwy sy’n gyfrifol am y grŵp  
  • Beth i’w wneud os bydd rhywun o’r tu allan i’r grŵp yn dod atyn nhw 

Dylai’r disgyblion hefyd ddeall bod y Senedd yn weithle ac yn lle sydd ar agor i’r cyhoedd. 

Gofynion o ran Mynediad

Mae’n bwysig i chi roi gwybod i’r tîm archebu am unrhyw ofynion mynediad neu anghenion arbennig ar ddechrau’r broses archebu. 

Tynnu Lluniau 

Fel rhan o’r ymweliad, mae’n bosibl y byddwn yn tynnu lluniau o’r plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau. 

Mae’n bosibl y bydd y delweddau hyn yn ymddangos mewn cyhoeddiadau argraffedig neu ar wefan y Senedd a/neu wefan Aelodau o’r Senedd.

Os caiff y delweddau hyn eu cyhoeddi, ni fyddwn yn cyfeirio at y disgyblion wrth eu henwau. 

Eiddo Personol  

Bydd angen i’ch holl eiddo personol fynd drwy’r sganiwr pelydr-X wrth ichi gyrraedd. Rhaid i’r disgyblion sicrhau nad oes unrhyw eitemau miniog (e.e. sisyrnau, cyllyll ffrwythau) yn eu heiddo personol.

Bydd y Swyddogion Diogelwch yn mynd ag unrhyw eitemau o’r fath ar gyfer hyd yr ymweliad. Nid oes cyfleusterau ar gael i ddisgyblion storio eu heiddo, felly dylech eu cynghori i ddod â chyn lleied o eiddo personol â phosibl.

Y disgyblion eu hunain a fydd yn gyfrifol am eu heiddo personol yn ystod yr ymweliad. 

Gadael yr Adeilad Mewn Argyfwng

Yn ystod eich ymweliad, bydd eich Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn rhoi cyfarwyddiadau sy’n addas i oedran eich grŵp, gan gynnwys gwybodaeth am weithdrefnau tân, ymddygiad ar y safle, ac unrhyw beryglon posibl a all godi yn ystod yr ymweliad. Caiff yr ymddygiad a ddisgwylir yn ystod y daith ei amlinellu cyn cychwyn.

Pan fydd larymau tân yn cael eu seinio unrhyw le yn yr adeilad, byddant yn canu’n ddi-dor. Bydd y Swyddog Addysg ac aelodau o staff (yn cynnwys y Wardeiniaid Tân) yn sicrhau bod y grŵp yn gadael yr adeilad ar unwaith drwy’r allanfa agosaf. Dylai’r grŵp fynd yn syth i’r Man Ymgynnull Tân perthnasol.  

Cyfleusterau Cymorth Cyntaf

Mae ystafelloedd a chyfarpar cymorth cyntaf ar gael os bydd eu hangen. Rhowch wybod i’r Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc neu aelod o’r Tîm Diogelwch am unrhyw ddigwyddiad neu ddamwain sy’n digwydd i aelod o’r grŵp addysg yn ystod yr ymweliad â’r safle. 

Rhaid i Arweinwyr Grwpiau lenwi ffurflen ddamwain neu ddigwyddiad. Bydd y ffurflen yn cael ei hanfon at y Tîm Iechyd a Diogelwch er mwyn sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd.