Addas ar gyfer: Disgyblion ysgol uwchradd
Hyd: 2 awr
Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd cynrychiolwyr Senedd neu Gyngor Ysgol yn edrych ar y tebygrwydd rhwng eu rolau a rolau Aelodau o’r Senedd.
Bydd y cynrychiolwyr yn chwarae rôl gwaith Aelod o’r Senedd wrth iddynt ystyried effaith Covid 19 ar y gymdeithas cyn cymryd rhan mewn dadl yn y siambr drafod wreiddiol i efelychu’r Cyfarfod Llawn.
Gweithgareddau
Dechreuwch eich ymweliad gyda thaith o amgylch y Senedd, ac yna gweithgareddau yn y ganolfan addysg.
Siambr Hywel
Mae pobl Cymru yn addasu i fywyd ar ôl y gwaethaf o bandemig y coronafeirws. Mae angen i Aelodau o’r Senedd adeiladu Cymru well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ystyried pa benderfyniadau y byddent yn eu gwneud o dan y themâu canlynol:
- Amddiffyn y Blaned
- Ffitrwydd a Lles
- Y Celfyddydau
- Addysg
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Bydd y disgyblion yn cynnig atebion ymarferol ac yn cyfiawnhau eu penderfyniad wrth weithredu’n wleidyddol.
Bydd y disgyblion yn trafod pwnc yn y siambr drafod wreiddiol - Siambr Hywel.
Archebu Lle
Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.
chevron_right
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
- Os byddwch yn ymweld ar fore dydd Mawrth neu fore dydd Mercher, gallwch archebu tocynnau i wylio'r Cyfarfod Llawn sy'n dechrau am 13.30.
- Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp cyn neu ar ôl yr ymweliad.
- Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau
Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm