Am ddod â’ch dysgwyr neu pobl ifanc i’r Senedd ar gyfer sesiwn addysgol, gweithdy neu daith am ddim?
Mae ein rhaglenni addysg, sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd, yn ffordd benigamp o helpu i ddysgu am wleidyddiaeth Cymru.
Rydym wrthi’n derbyn archebion ar gyfer Fy Llais, Fy Mhleidlais – sydd wedi’i gynllunio ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 11-13.
Bydd archebion ar gyfer pob sesiwn ym mlwyddyn academaidd 2025/26 yn agor ddydd Llun 2 Mehefin 2025.
Os hoffech drefnu sesiwn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, cysylltwch â ni.