Affairs of the Art: Celf Joanna Quinn

Cyhoeddwyd 27/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Dyddiadau: 22 Gorffennaf – 6 Medi 2022
Lleoliad: Oriel y Senedd

Delwedd: Joanna Quinn

Mae Affairs of the Art yn dathlu gwaith Joanna Quinn, ffigwr blaenllaw ym myd animeiddio sy’n enwog am ei sgiliau lluniadu, ei chymeriadu a’i hiwmor unigryw. Enwebwyd ei ffilmiau am dair Oscar, ac maent wedi ennill tair gwobr Emmy a phedair gwobr BAFTA.

Mae cwmni animeiddio Joanna, a sefydlwyd ym 1987 gyda’r awdur a’r cynhyrchydd Les Mills, wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae enw’r cwmni, Beryl Productions, yn deillio o gymeriad nodweddiadol, sef Beryl, gweithiwr ffatri o Gymru sy’n ymddangos mewn 4 ffilm.

Mae Beryl i’w gweld yn ffilm ddiweddaraf y cwmni, Affairs of the Art, a enwebwyd am Oscar a gwobr BAFTA yn 2022 yn y categori Ffilm Fer Animeiddiedig Orau. Denodd y ffilm sylw'r cyfryngau ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

Yn dilyn ôl-sylliadau o waith Joanna ledled y byd, hon fydd yr arddangosfa fawr gyntaf o’i gwaith celf yng Nghymru.

Dros gyfnod o chwe blynedd, creodd Joanna 24,000 o ddarluniau ar gyfer Affairs of the Art. Mae detholiad ohonynt bellach yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn y Senedd. 

Cânt eu dangos ochr yn ochr â gwaith cynharach o ffilmiau a hysbysebion, sy'n olrhain y broses a ddilynir gan Joanna o'r syniad cychwynnol i'r ffilm orffenedig.