Butetown Carnival Archive

Butetown Carnival Archive

Archif Carnifal Trebiwt

Cyhoeddwyd 06/07/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Dyddiadau: 2 Awst - 4 Medi

Lleoliad: Oriel y Senedd ac Oriel y Dyfodol y Pierhead

Yr haf hwn mae'r Senedd yn falch o gynnal arddangosfa sy'n dathlu Carnifal Trebiwt. Mae Keith Murrell, Cyfarwyddwr Cymdeithas Celfyddyd a Diwylliant Trebiwt, wedi casglu ynghyd ddetholiad o luniau o Archif Carnifal Trebiwt. Mae'r delweddau’n rhoi cipolwg ar lawenydd yr achlysur hwn dros y blynyddoedd. Ymunwch â ni ar gyfer Carnifal Trebiwt ar 27 a 28 Awst 2023.

Lluniau © Keith Murrell and Simon Campbell

"Mae Carnifal Trebiwt yn ddathliad bywiog sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn yn hanes a diwylliant cymuned Trebiwt yng Nghaerdydd. Gellir olrhain gwreiddiau’r carnifal yn ôl i ddyddiau’r traddodiadau a ddygwyd i'r ardal gan forwyr ar ddechrau'r 20fed ganrif. Wrth i forwyr o wahanol ddiwylliannau a rhanbarthau gyrraedd Trebiwt, daethant â'u harferion carnifal bywiog gyda nhw, a unodd yn y pen draw â dathliadau'r gymuned leol."

"Yn dyddio'n ôl i'r 1960au, mae Carnifal Trebiwt wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol hoff gan lawer o bobl. Dros y blynyddoedd, mae wedi esblygu i fod yn arddangosfa fawreddog o gerddoriaeth, dawns, gwisgoedd a bwyd, gyda dylanwadau o'r gwahanol ddiwylliannau sydd wedi cyfrannu at y gymuned yn y rhan hon o Gaerdydd. Mae'r orymdaith, sy'n ganolbwynt i'r carnifal, yn cynnwys grwpiau dawnsio egnïol, a cherddoriaeth gan artistiaid lleol a chenedlaethol."

Lluniau © Simon Campbell

"Wedi cyfnod hir o seibiant, ail-lansiwyd y carnifal yn 2014 gan Gymdeithas Celfyddyd a Diwylliant Trebiwt. Ein nod oedd ailsefydlu'r carnifal fel y Carnifal mawr yng Nghymru – a charnifal blaenllaw sy'n cynrychioli amrywiaeth a chreadigrwydd y wlad i gyd."

"Mae'r arddangosfa hon yn talu gwrogaeth i dreftadaeth ac etifeddiaeth gyfoethog y digwyddiad arbennig hwn. Drwy ffotograffau, gwisgoedd, pethau cofiadwy, a straeon personol, mae'r arddangosfa'n cyfleu hanfod esblygiad y carnifal dros y blynyddoedd. Mae'n dathlu gwytnwch, creadigrwydd, ac undod y gymuned - y cyfeillgarwch a wnaed a’r rhwystrau a oresgynnwyd."

"Anfonwn eich diolchiadau i: Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Simon ac Anthony Campbell, Glyn White a’r teulu."

- Keith Murrell, o Gymdeithas Celfyddyd a Diwylliant Trebiwt

 

Lluniau © Keith Murrell