Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; Canolfan Archaeoleg ac Arloesi, Iwerddon; Prifysgol Aberystwyth; ac Arolwg Daearegol, Iwerddon
Noddwyd gan Julie James AS
Dyddiadau: 28 Mai – 14 Gorffennaf
Lleoliad: Oriel y Senedd
Mae CHERISH yn dwyn ynghyd dîm o archeolegwyr, daearyddwyr a gwyddonwyr morol sy'n astudio effeithiau newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol a morol ledled Cymru ac Iwerddon.
“Rydym yn ymchwilio i amrywiaeth o leoedd o amgylch yr arfordir gan gynnwys llongddrylliadau, caerau pentiroedd, gwlyptiroedd a thwyni tywod.”
“Er mwyn ein helpu i ddeall effeithiau'r tywydd a'r hinsawdd ar y safleoedd hyn, rydym yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i gofnodi a monitro newid.”
“Rydym hefyd yn gwneud gwaith cloddio cymunedol i'n helpu i ddysgu cymaint â phosibl am y tirweddau hyn sydd dan fygythiad cyn iddynt gael eu colli am byth. Bydd ein canlyniadau yn helpu i lywio arferion a pholisi yn y dyfodol.”
Mae arddangosfa CHERISH yn manylu ar waith y prosiect ac effaith newid yn yr hinsawdd ar ein treftadaeth ddiwylliannol. Mae hefyd yn cynnwys ymatebion i'r safleoedd a astudiwyd, a grëwyd gan yr artistiaid Pete Monaghan a Julian Ruddock.
Mae CHERISH yn brosiect chwe blynedd a ariennir gan Ewrop a ddechreuodd ym mis Ionawr 2017. Bydd yn rhedeg tan fis Mehefin 2023, gan elwa o €4.9 miliwn drwy Raglen Iwerddon-Cymru 2014-2020.