Cofio Jim Griffiths

Cyhoeddwyd 05/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Prosiect ar y cyd gan y Senedd, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dyddiadau: 9 – 19 Mai

Lleoliad: Y Senedd

Yn fab i löwr o bentref bach yng ngorllewin Cymru, daeth yn un o wleidyddion mwyaf dylanwadol Prydain wedi’r rhyfel a'r Ysgrifennydd Gwladol cyntaf erioed i Gymru. I anrhydeddu bywyd Jim, bydd cerflun ohono yn cael ei gyflwyno yn y Senedd, cyn dychwelyd i'w gartref parhaol fel rhan o gasgliad CofGâr.