Ysgrifennwyd y gerdd hon gan fardd cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, i gyd-fynd â'r oriel bortreadau ar-lein yn arddangos hyrwyddwyr cymunedol o bob rhan o Gymru.
Egni Cymwynas
Mae stadiwm ein gwlad yn dywyll
ond yn bair o bosibliadau…
(er nad oes band am chwarae)
Ymhlith y rhesi gwag, mae adlais torf
yn chwyddo’n gytgan;
a gwreichion hen haelioni
yn ffaglu’n fil o fflamau mân.
Peth felly yw egni cymwynas -
y trydan cudd, ymhob cwr o’n gwlad,
sy’n nôl ffisig,
neu’n gwneud neges;
sy’n rhannu sgwrs
fel rhosyn annisgwyl;
sy’n gylch,
pan freichiwn ein gilydd
o bell…
Ac wrth i ni anturio
drwy diroedd newydd ein hen gynefin,
yr ail-fapio yw ein her;
ond er chwithdod
cofleidiau rhithiol,
a diflastod
pob clo dros dro,
mae gwefr mewn cymwynas o hyd:
- fel cyffwrdd yr haul â blaen bys! -
a llewyrchwn fel gwlad yn ei sgîl...
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, wedi’i chomisiynu gan Llenyddiaeth Cymru a Chomisiwn y Senedd.
Mae menter Bardd Cenedlaethol Cymru yng ngofal Llenyddiaeth Cymru.