Yn ogystal â’r banc bwyd mae Liz a’i thîm yn Ymddiriedolaeth Bethel Port Talbot yn darparu prydau bwyd, dillad, yn helpu i ddod o hyd i swyddi a llety, mynediad at TG a chefnogaeth o ran adferiad o ddibyniaeth, ac maent yn helpu rhwng 50 a 70 o unigolion bob wythnos.

Liz Hill O’Shea
Enwebwyd gan Suzy Davies AS, Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru.

Christopher Lem Turner
Enwebwyd gan Suzy Davies AS, Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru.
Mae Lem yn weinidog ar Eglwys Compassion Pen-y-bont ar Ogwr ac mae ei eglwys yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn prosiectau cymunedol, gan gynnwys cefnogi menywod a merched sydd wedi cael problemau cam-drin cyffuriau.
Yn ystod y cyfnod clo, rhoddodd gefnogaeth fugeiliol i lawer a dosbarthodd becynnau i athrawon i ddangos diolchgarwch y gymuned am eu gwaith caled.

Linda Taylor-Lloyd
Enwebwyd gan Suzy Davies AS, Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru.
Mae Linda wedi bod yn arwr yn ei chymuned ers nifer o flynyddoedd. Yn ystod y pandemig, mae ei gwaith dros y gymuned ym Mayals wedi dwysáu mwy fyth. Mae hi wedi gweithio’n galed i sicrhau bod cymorth ar gael i’w chymuned drwy lansio caffis cymunedol a chefnogi banciau bwyd, yn ogystal â dod o hyd i grantiau i adeiladu cyfleusterau hamdden sydd mawr eu hangen.

Banc Bwyd Eastside
Enwebwyd gan Mike Hedges MS, Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Abertawe.
“Nid yw masgiau na chadw pellter cymdeithasol wedi lladd ysbryd y tîm; maen nhw'n gwneud y job!”
Dyma rai o dîm Banc Bwyd Eastside wrth eu gwaith, fel maen nhw wedi bod ers 2014 a thrwy gydol y pandemig.

Juliet Rees o Fanc Bwyd Y Gellifedw Abertawe
Enwebwyd gan Mike Hedges AS, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Abertawe.
Cafodd y banc bwyd yn Llwyn Fedw ei sefydlu ychydig cyn y cyfnod clo cychwynnol ac mae wedi ymroi i gefnogi pobl ers hynny.
Mae Juliet a’i thîm wedi cefnogi dros 1,500 o oedolion a phlant drwy ddarparu bwyd a nwyddau hanfodol mewn amseroedd caled.

Banc Bwyd Eglwys San Steffan
Enwebwyd gan Mike Hedges AS, yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Abertawe.
Yn ystod y pandemig, mae’r banc bwyd wedi cefnogi’r gymuned drwy ddarparu dros 10,000 o fagiau o brydau ysgol am ddim a’u cludo i stepen ddrws y plant; drwy gynnal banc bwyd pum diwrnod yr wythnos a dosbarthu tunelli o fwyd gwastraff o archfarchnadoedd ledled y ddinas i bobl y mae angen bwyd arnynt; drwy gefnogi mamau newydd bregus drwy raglen i ddarparu nwyddau sylfaenol i fabanod; a thrwy gasglu presgripsiynau a nwyddau hanfodol dros bobl sydd methu gadael eu cartrefi.

Leanne Dower
Enwebwyd gan Julie James AS, Aelod o'r Senedd dros Orllewin Abertawe.
Leanne yw rheolwr Hill Community Development Trust, Canolfan y Ffenics, Townhill, er dechreuodd ei Gwaith yn y ganolfan fel gwirfoddolwr. Diolch i ymdrechion Leanne i wella bywydau pobl mae’r ganolfan yn galon i’r gymuned.

Thom Lynch
Enwebwyd gan Julie James AS, Aelod o’r Senedd dros Orllewin Abertawe.
Mae Thom a gwirfoddolwyr o Mathews House Swansea yn paratoi, coginio a gweini prydau bwyd i bobl ddigartref a bregus gan ddefnyddio stoc dros ben gan archfarchnadoedd. Maent hefyd yn darparu pecynnau urddas, cawodydd a gwasanaethau golchi dillad.

Bethan McGregor
Enwebwyd gan Julie James AS, Aelod o’r Senedd dros Orllewin Abertawe.
Fel ‘cydlynydd ardal leol’ yn Townhill, Abertawe mae Bethan wedi gweithio’n galed i sefydlu ei hun yn y gymuned. Mae hi wedi estyn llaw i bobl sy’n ynysig ac mae wedi’u cysylltu â grwpiau cymunedol, ac wedi dosbarthu parseli a meddyginiaethau. Mae Bethan wedi mynd y tu hwnt i’w rôl i ddiwallu anghenion pobl Townhill.

Hannah Sabatia
Enwebwyd gan Bethan Sayed AS, Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru.
“…person doeth, gofalgar a chefnogol”
Dyma Hannah Sabatia a’i thîm o wirfoddolwyr a rhai o’r ffoaduriaid ac aelodau o’r gymuned ceiswyr lloches y mae’n gweithio gyda nhw fel Swyddog Datblygu prosiect Croeso Cynhesach i Abertawe.

Rachel Matthews
Enwebwyd gan Bethan Sayed AS, yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru.
Rachel yw sylfaenydd a rheolwr prosiect yr elusen ffoaduriaid, Swansea Bloom yn Abertawe, lle mae’n cefnogi teuluoedd i ymgartrefu ac integreiddio yng Nghymru, ac mae’n rhoi popeth i helpu pobl sydd wedi dioddef llwybr trawmatig hyd yma.