Llys Glyndŵr

Cyhoeddwyd 15/08/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/09/2024   |   Amser darllen munudau

Dan Llywelyn Hall

Noddir gan Russell George AS

 

Dyddiadau: 6 Medi - 3 Hydref 2024

Lleoliad: Senedd Neuadd

Darlun o Owain Glyndŵr. Mae ganddo wallt hir a barf, ac mae’n gwisgo siaced goch. Mae’n dal dau gi bach du yn ei ddwylo, ac mae mynydd tywyll a choed gwyrdd yn y cefndir.

Roedd Owain Glyndŵr (c.1354 – c.1415) yn arweinydd ac yn filwr o Gymru a wasnaethodd fel Tywysog brodorol olaf Cymru. Rhwng 1400 a c.1415, arweiniodd Glyndŵr wrthryfel yn erbyn y Saeson a oedd yn rheoli yng Nghymru. Yn 1404, sefydlodd Senedd gyntaf Cymru ym Machynlleth.

I gyd-fynd â Diwrnod Owain Glyndŵr, mae’r artist Dan Llywelyn Hall wedi creu cyfres o ddarluniau sy’n portreadu ffigyrau allweddol yn llys Owain. O ran delweddu pob cymeriad, defnyddiodd yr artist y nifer cyfyngedig o gyfeiriadau a wnaed yn eu cylch.

“Drwy gydol ei fywyd, symudodd Owain Glyndŵr rhwng pob haen o’r gymdeithas, gan gynnwys uchelwyr Cymreig a Seisnig. Ar ôl iddo wasanaethu Coron Lloegr, roedd yn cael ei weld fel cyswllt pwysig rhwng y ddwy wlad.

“Pan ddechreuodd gwrthryfel Owain, roedd yn dibynnu ar ei gynghreiriau hirsefydlog ar ddwy ochr y ffin. Ym mlynyddoedd dilynol yr ymgyrch, cyfrannodd ffigurau allweddol at sicrhau etifeddiaeth Owain. Roedd y cyfraniad hwn yn cynnwys cefnogaeth ariannol a milwrol, yn ogystal ag ymdrechion y rhai a gofnododd y cyfnod, a roddodd fewnwelediadau gwerthfawr i ni o ran cymeriad Owain”.

- Dan Llywelyn Hall

Mae Diwrnod Owain Glyndŵr yn cael ei gynnal bob blwyddyn yng Nghymru ar 16 Medi.