Cricieth Creadigol a Chymuned Cricieth
Noddir gan Eluned Morgan AS
Dyddiadau: 2 – 29 Tachwedd
Lleoliad: Neuadd y Senedd
Llun: Andrew Kime
Yn 2020, cafodd llawer o ddigwyddiadau Dydd y Cofio eu canslo oherwydd Covid-19.
Yn hytrach, daeth trigolion yng Nghricieth, Gwynedd, at ei gilydd i lunio mantell o flodau pabi a gafodd ei harddangos fel rhan o arddangosfa ar y Stryd Fawr i nodi Dydd y Cofio.
Fe wnaeth gwirfoddolwyr o'r gymuned wau a chrosio 5,000 o flodau pabi a gafodd eu hymgorffori yn y ffrog.
Mae'r fantell ei hun yn symbol o golli cymuned gyfan ac mae'n arbennig o ystyrlon i genhedlaeth o fenywod a gollodd anwyliaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.
Gan dynnu ar ddoniau unigolion o bob cenhedlaeth ac o bob rhan o’r gymuned, roedd y prosiect yn un o nifer a arweiniodd at lwyddiant ysgubol Cricieth Creadigol wrth ennill Gwobr Bywydau Creadigol Cymru 2021.
Yn awr, bydd Mantell o Flodau Pabi Cricieth yn cael ei harddangos yn y Senedd fis Tachwedd eleni fel rhan o’r digwyddiadau i nodi Dydd y Cofio 2022.