Mae logo sy'n dangos '25' i’w weld ar gefndir du

Mae logo sy'n dangos '25' i’w weld ar gefndir du

O’r Archif: Dy Senedd di yn 25

Cyhoeddwyd 19/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/07/2024   |   Amser darllen munud

Mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dyddiadau: 4 Mai – 17 Gorffennaf

Lleoliad: Neuadd y Senedd

Er mwyn nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, mae’r Archif Wleidyddol Gymreig ac Archif Ddarlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dewis eitemau o’u casgliad sy’n dangos rhai o’r prif gerrig milltir ar daith y Senedd hyd yn hyn.

Mae'r arddangosfa hon yn ategu’r llinell amser a gafodd ei churadu mewn partneriaeth â Chanolfan Llywodraethiant Cymru sydd i’w gweld yn barhaol yn y Senedd.

 

 

 

Beth yw datganoli?

Ystyr datganoli yw trosglwyddo pŵer i lefel fwy lleol.

Ers 1999, mae nifer o bwerau mewn meysydd penodol wedi cael eu trosglwyddo o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, ac o Senedd y DU i Senedd Cymru.

Erbyn hyn, mae llawer o'r penderfyniadau sy’n ymwneud â Chymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag addysg, gofal iechyd a thrafnidiaeth.

 

Lluniau

1. Deddf Llywodraeth Cymru, 1998 (NLW Ex 2443 | Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) 

2. Taflen o ymgyrch Ie dros Gymru, yn cefnogi datganoli pwerau deddfu sylfaenol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011 (Lee Waters Papers 37 | Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

3. Poster ymgyrch Ie dros Gymru, 1997 (Lee Waters Papers 44 | Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru)