Tyst i Gymru

Cyhoeddwyd 05/08/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/10/2024   |   Amser darllen munud

Mohamed Hassan

Wedi'i guradu gan Bob Gelsthorpe

Noddir gan Paul Davies AS

 

Dyddiadau: 7 Medi - 31 Hydref 2024

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

 

Mae ‘Tyst i Gymru’ yn astudiaeth hirdymor o gymuned a chenedligrwydd, a grëwyd drwy gyfres o deithiau ar draws y wlad. Mae'r gwaith yn cynnwys tirweddau a phortreadau, gyda'r portreadau wedi'i gwneud ar y cyd â llawer o gymunedau; o ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd y wlad i aelodau o gorau hanesyddol.

Er bod y gwaith yn ddogfennol ei natur mae’n cyfleu’r teimlad o fod mewn breuddwyd, gyda delweddau o nosweithiau hirddydd haf a nosweithiau tywyll y gaeaf, ynghyd â chyfeiriadau at hanes a llên gwerin Cymru.

Drwyddo draw, mae’r gwaith yn chwedl alegorïaidd ar gyfer creu ymdeimlad o berthyn o fewn stori Cymru heddiw.

 

 

Ganed Mohamed ym 1984 yn Alexandria, yr Aifft, a symudodd i Gymru yn 2007. Astudiodd ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, cyn cwblhau gradd meistr mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae gwaith Mohamed wedi’i gynnwys mewn nifer o arddangosfeydd grŵp mawreddog, gan gynnwys, ‘Facing Britain: British documentary photography since the 1960s’; arddangosfa 'Nifer o Leisiau, Un Genedl'; ac arddangosfa ‘The Taylor Wessing Portrait Prize’. Mae ei waith wedi’i arddangos mewn casgliadau gan gynnwys Casgliad Celf y Llywodraeth a chasgliad yn Amgueddfa Cymru.

Lluniau © Mohamed Hassan