Us Here Now

Cyhoeddwyd 17/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Jon Pountney a Common Wealth

Noddir gan Vaughan Gething AS

Dyddiadau: 13 Gorffennaf – 24 Medi

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Mae dyn â gwallt cyrliog, tywyll, byr a barf dywyll yn chwerthin. Mae'n gwisgo dillad glas tywyll Tesco. Ar y dde, mewn delwedd ar wahân, gwelir merch ifanc â gwallt golau, cyrliog wedi'i glymu mewn cynffon merlen yn yfed potel o lemonêd. Mae hi'n gwisgo top byr glas a phinc.

Delwedd: Jon Pountney

Mae Us Here Now yn ddathliad o bobl yn Nwyrain Caerdydd; eu straeon a'u grym. Mae'n daith tua'r hyn y mae'n ei olygu i gael ein gweld a’n clywed; mae'n her i'r naratif negyddol sydd yn aml o'n cwmpas.

Ar ddiwedd Haf 2020 ar ôl y cyfnod clo cyntaf, gweithiodd yr artist Jon Pountney a Common Wealth gyda phobl sy'n byw, neu’n gweithio yn Llaneirwg, Llanrhymni a Trowbridge neu’n hanu o’r ardali gael cipolwg ar fywyd yn yr heulwen; ni, yma, nawr.

Am 6 mis, arddangoswyd 12 o ffotograffau ‘mwy na maint bywyd’ yn y gofod dinesig gan Tesco Llaneirwg. Daeth yr arddangosfa â gwên i wynebau llawer o bobl, gan sirioli eu dyddiau ar adeg pan nad oedd pobl yn cael ymgynnull oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod clo. Fe'n hatgoffwyd nad ydym ar ein pen ein hunain.

Mae Us Here Now yn Oriel y Dyfodol yn dod â Dwyrain Caerdydd i ganol y ddinas ac i galon grym yng Nghymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y nifer fawr o bobl a gymerodd ran yn y ffilm ddogfen fer a'r prosiect zine, sydd ar gael yn yr arddangosfa ac ar-lein yn commonwealththeatre.co.uk.

Mae Us Here Now yn Oriel y Dyfodol wedi'i gyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn a'r Department of Dreams.