Dusk gan Sarah Hopkins a Muhummad Atif Khan

Dusk gan Sarah Hopkins a Muhummad Atif Khan

Dathlu Paentiadau Cyfoes Cymreig

Cyhoeddwyd 27/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2024   |   Amser darllen munud

Arddangosfa gan y Grŵp Cynllunio Dathlu Paentiadau Cyfoes Cymreig

Noddir gan Dawn Bowden AS

Dyddiadau: 10 Ionawr - 25 Chwefror 2025

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

 

Nod Dathlu Paentiadau Cyfoes Cymreig (CoWCP) yw dangos y bywiogrwydd a’r doniau o ran paentio sydd i’w gael yng Nghymru.

Drwy gyfres o arddangosfeydd ar draws un ar bymtheg o leoliadau yng ngogledd, de, canolbarth a gorllewin Cymru, mae CoWCP yn cynrychioli rhai o arlunwyr mwyaf arwyddocaol Cymru yn ogystal â'r rhai sydd ar ddod i’r amlwg.

Llun cyfansawdd o waith gan Sandara Wintle, Colin Davies a David Williams

Gan ddechrau yn 2017 gyda dim ond dau leoliad, mae’r dathliad eleni yn cynnwys mwy na 150 o beintwyr yn cymryd rhan, felly dyna dipyn o dwf.

Mae ein dehongliad o’r gair paentio yn eang ac mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n cynnwys cerameg, gwydr, carreg, papur, tecstilau a phren yn ogystal â phaentio traddodiadol.

Ar gyfer ein harddangosfa yn Oriel y Dyfodol rydym wedi arddangos enghreifftiau o arddangosion o bob lleoliad i ddangos yr amrywiaeth eang o ddoniau sydd ar gael ledled Cymru heddiw.

 

Lleoliadau sy'n cymryd rhan

Aberdâr

Amgueddfa Cwm Cynon

Aberhonddu

Oriel Ardent

Found Gallery

Y Gaer

Theatr Brycheiniog

Caerdydd

Crefft yn y Bae

Y Pierhead

Conwy

Academi Gelf Frenhinol Gymreig

Crucywel

Oriel Tŵr

Y Clas ar Wy

Canolfan Gelfyddydau Y Clas ar Wy

Y Gelli Gandryll

Caffi Castell y Gelli

Oriel y Bwrdd

Merthyr Tudful

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Castell-nedd

Oriel Stryd y Frenhines

Tyddewi

Oriel y Parc

Dinbych-y-pysgod

Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod

 

www.cowcp.com

 

Lluniau

1 - Dusk gan Sarah Hopkins a Muhummad Atif Khan

2 - Llun cyfansawdd o waith gan Sandara Wintle, Colin Davies a David Williams