Arddangosfa gan Grahame Hurd-Wood
Noddir gan Eluned Morgan AS
Dyddiadau: 1 Mawrth - 12 Ebrill 2025
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead
Yn 2013, penderfynodd Grahame Hurd-Wood ddechrau prosiect uchelgeisiol i beintio portread o bob un o drigolion Tyddewi, Sir Benfro.
“Mae Prosiect Dinas Portreadau yn ddathliad parhaus, hynod bersonol o bobl, bywydau a straeon fy nghymuned yn Nhyddewi, Sir Benfro.”
“Mae’r ddinas fechan hon, sydd â bron 1,800 o drigolion, wedi bod yn gartref i mi ers blynyddoedd lawer, a thrwy gyfres o bortreadau, rwy’n creu teyrnged barhaol i’w hysbryd unigryw a chlos.”
“Dechreuodd y prosiect dros ddegawd yn ôl, wedi’i ysbrydoli gan gais fy nyweddi, a oedd yn brwydro yn erbyn canser, i beintio ei phortread. Ychydig a wyddwn y byddai’r weithred hon yn dod yn rhan deimladwy o’i gwaddol, gan i mi gwblhau’r paentiad ar ôl iddi farw.”
“Wrth i mi barhau i beintio portreadau, fe droes y prosiect yn deyrnged ddiffuant i Dyddewi a'r gymuned o unigolion sy'n ei alw'n gartref. Mae pob portread rwy’n ei beintio yn ymgais i grisialu hanfod y person o’m blaen. Nid mater o bortreadu’r golwg corfforol yn unig yw hyn; mae a wnelo hefyd â datgelu’r elfen unigryw sy’n gwneud pob unigolyn pwy ydyw.”
“Mae’r portreadau’n cael eu paentio ar gynfasau bach ac yn ddiweddarach yn cael eu rhoi at ei gilydd ar ffurf grid mawr, pob un yn 1m². O edrych ar y darnau fel grŵp, maen nhw’n dod yn fwy na’u rhannau unigol, gan gynnig cynrychiolaeth weledol drawiadol o amrywiaeth, cynhesrwydd a chydgysylltiad y gymuned ryfeddol hon.”
- Grahame Hurd-Wood