Gwawr / Dawn

Dyddiad: 24 Chwefror - 19 Ebrill

Lleoliad: Senedd

 

Mae Gwawr / Dawn yn waith celf digidol a grëwyd gan Zillah Bowes ar gyfer Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd yn 2021. Mae’n cynnwys ffotograffau o bobl o bob cwr o Gymru, ynghyd â thirluniau, wedi’u cymryd cyn i’r haul godi, ac wedyn.   

Mae Zillah Bowes yn artist amlddisgyblaeth sy’n creu darnau o waith ym meysydd ffilm, ffotograffiaeth a barddoniaeth. Mae ei gwaith wedi cael ei ddangos yn fyd-eang mewn llawer o ffyrdd, gan gynnwys mewn sinemâu, ar y teledu, ar-lein ac mewn orielau.  

Gwylio Gwawr / Dawn >

Gofynnodd yr artist i bob un o’r bobl y tynnwyd eu llun yn y gwaith celf ddisgrifio eu trefn neu ddefod ben bore, a pha fath o brofiad iddyn nhw yw’r newid yn y wawr. 

Amanda
'Pan rwy'n dod adref ar ôl shifft nos, rwy’ wedi blino'n lân ond yn aml mae'r haul newydd godi. Dechreuais i weithio mewn cartref gofal ychydig ar ôl i mi orffen fy ngradd meistr mewn drama. Doedd dim swyddi gan fod y theatrau ar gau oherwydd y pandemig. Doeddwn i ddim eisiau aros gartref yn gwneud dim byd felly roeddwn i'n meddwl y gallwn i wneud cyfraniad i’r gymdeithas drwy weithio mewn cartref gofal ond hefyd y byddwn i’n gallu cynilo ychydig o arian i greu fy mherfformiadau a'u cyflwyno i bobl. Felly nawr rydw i wir yn sylwi’r haul yn codi.'

Amanda, Gweithiwr Cartref Gofal ac Artist Perfformio, Aberystwyth

 

 

Keri
'Mae rhywbeth am fod yn y dŵr y peth cyntaf yn y bore - mae cael eich trochi mewn dŵr a gweld yr haul yn codi yn hynod o arbennig. Rydw i wedi bod yn nofio yn y môr ers 10-15 mlynedd. Dechreuais i fynd â fy merch i nofio cyn yr ysgol ac fe wnes i ddod i arfer â chodi'n gynnar iawn. Dechreuais i sylwi ar bethau ar yr adeg honno o'r dydd nad ydych chi’n sylwi nes ymlaen pan fydd pobl o gwmpas - y golau, yr haul, y distawrwydd, cân yr adar. Nawr os oes gen i ddewis o ran pryd i fynd nofio, rydw i bob amser yn mynd adeg y wawr.'

Keri, Nofiwr Awyr Agored, Penarth

 

 

Tommy
'Ar ôl shifft nos rwy'n codi cyn pawb arall ac os yw'n fore braf, fe fydda i'n sefyll y tu allan, hyd yn oed os mai dim ond i gael coffi ar ben fy hun. Pan fydd yr haul yn codi, rydych chi’n gallu teimlo bod hwyliau pobl yn newid. Rydw i wedi bod mewn swyddi lle rydyn ni wedi bod yn gwneud gwaith diffodd tân drwy'r nos a thuag at ddiwedd y digwyddiad, wrth i olau dydd gyrraedd wrth i ni gael coffi, rydych chi’n teimlo bod pobl yn gwybod bod y gwaith wedi dod i ben. Mae rhai o fy atgofion gorau adeg y wawr ar ôl bod allan drwy'r nos.'

Tommy, Rheolwr Gwylfa Tân ac Achub, Dyffryn, Casnewydd

 

 

Henry
'Mae cyfle da i syrffio yn y bore yn eich paratoi chi am y diwrnod. Pan fyddwch chi'n codi gyntaf, mae pawb yn cysgu ac mae'n dawel - mae'n ddechrau da i'r diwrnod. Rydw i wedi bod yn syrffio ers tua 30 mlynedd erbyn hyn. Rwy'n dod o Sir Benfro yn wreiddiol a dyna lle dysgais i syrffio. Rydw i wastad wedi bod yn un sy’n codi’n gynnar ac mae'n mynd law yn llaw â syrffio oherwydd rwy’n hoffi syrffio heb y torfeydd - y cynharaf rydych chi'n mynd, lleiaf o bobl sy’n cystadlu gyda chi am donnau. Mae'n eich paratoi chi wedyn ar gyfer diwrnod prysur yn y gwaith neu gydag unrhyw beth y mae'n rhaid i chi ei wneud.'

Henry, Syrffiwr, Traeth y Sger, Porthcawl

 

 

Marit
'Rwy'n codi'n gynnar ac yn mynd allan ar unwaith gyda'r cŵn er mwyn bod yn ôl ar gyfer y gwaith. Yn aml rydyn ni'n cychwyn yn y tywyllwch ond mae'n olau dydd pan fyddwn ni’n dod yn ôl, felly fe alla i weld sut mae'r awyr yn newid. Mae'n wych achos rwy’n gallu cerdded yn syth allan o'r drws cefn, drwy goedwig fach, ac yna mwynhau golygfeydd dros Gadair Idris a Thal-y-llyn. Mae 'na ardal fawr o fynyddoedd a llynnoedd agored yn ymestyn i bob cyfeiriad, a does dim rhaid i mi yrru i unrhyw le. Anaml iawn y byddwn ni’n cwrdd ag unrhyw un arall os ydyn ni allan ar adeg y wawr, felly rydyn ni’n cael y goedwigaeth a'r golygfeydd i ni ein hunain.'

Marit, Cerddwr, Corris Uchaf, Machynlleth


Gwaith celf gan Zillah Bowes © 2021