Hawker Hectors o Sgwadron 614 dros Barc Cathays yng Nghaerdydd ym mis Mai 1939. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y Deml Heddwch ac un o’r adeiladau sydd bellach yn gartref i Lywodraeth Cymru i’w gweld isod.

Hawker Hectors o Sgwadron 614 dros Barc Cathays yng Nghaerdydd ym mis Mai 1939. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y Deml Heddwch ac un o’r adeiladau sydd bellach yn gartref i Lywodraeth Cymru i’w gweld isod.

Milwyr wrth gefn RAF Cymru a chanmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol Cynorthwyol

Cyhoeddwyd 15/10/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Arddangosfa gan Sgwadron Rhif 614 (Sir Forgannwg)

Noddir gan Hefin David AS a Darren Millar AS

Dyddiadau: 8 Tachwedd 2024 - 4 Ionawr 2025

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Mae’r arddangosfa hon yn adrodd hanes unig sgwadron wrth gefn yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru – Sgwadron Rhif 614 (Sir Forgannwg) – o’r adeg pan gafodd ei sefydlu ym 1937 hyd heddiw.

Mae’r sgwadron yn rhan o’r Awyrlu Cynorthwyol Brenhinol, a sefydlwyd 100 mlynedd yn ôl, ac mae’r arddangosfa hon yn cael ei chynnal fel rhan o’r digwyddiadau i goffáu ei ganmlwyddiant.

Mae’r arddangosfa’n coffáu’r rhai a wasanaethodd a’r rhai a roddodd eu bywydau mewn rhyfeloedd a chyfnodau o heddwch, a’r cyfraniad y mae’r sgwadron yn ei wneud i’r Awyrlu Brenhinol ac i fywyd cyhoeddus Cymru heddiw.

 

 

Drwy ddefnyddio delweddau llonydd, cyfweliadau fideo, deunydd archif ac arteffactau mae'n dangos sut mae dynion a menywod o Gymru wedi gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol drwy Sgwadron Rhif 614 (Sir Forgannwg).

Mae hefyd yn adlewyrchu elfen ryngwladol gwasanaeth y sgwadron. Ers cael ein hanfon i Ogledd Affrica a'r Eidal yn ystod y rhyfel - mae ein haelodau presennol wedi gwasanaethu dramor yng Nghyprus, Ethiopia, yr Aifft, Estonia, Ffrainc, Gwlad yr Iâ, Corea, Morocco, Norwy, Oman, Rwmania, yr Emiradau Arabaidd Unedig ac UDA. Mae'r lleoliadau hyn yn cynnwys cyfnewidfeydd sydd wedi gweld personél yn dod i Gymru i ymweld â'r Sgwadron a'n gwlad.

Yn olaf, mae’r arddangosfeydd hefyd yn dangos yr ystod o ffyrdd rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth o gymunedau yng Nghymru a’r berthynas bwysig sydd gennym â chyflogwyr ein milwyr wrth gefn, y mae eu cefnogaeth yn hanfodol.

 

Lluniau

1 - Bisley yn Algeria. Criw daear o Sgwadron 614 yn llwytho bomiau ar awyren fomio Bristol Bisley yn Canrobert yn Algeria, 1943.

2 - Cathy Sharples yn Estonia gyda Typhoon. Y ffotograffydd Cathy Sharples o Sgwadron 614, gyda jet Typhoon yr Awyrlu Brenhinol, tra roedd wedi’i leoli yn Estonia i gefnogi Cenhadaeth Plismona Awyr Baltig NATO.

3 - Vampire yn Sain Tathan. Personél Sgwadron 614 o flaen jet Vampire yn Amgueddfa Hedfan De Cymru yn Sain Tathan. Mae’r awyren wedi’i phaentio mewn lliwiau Sgwadron 614 i nodi 100 mlynedd ers sefydlu’r Awyrlu Cynorthwyol Brenhinol, a dyma’r un math ag yr oedd awyrennau’r sgwadron yn ei wisgo pan oedd wedi’i leoli yn Llandŵ yn y 1950au.

4 - Hawker Hectors dros Barc Cathays. Hawker Hectors o Sgwadron 614 dros Barc Cathays yng Nghaerdydd ym mis Mai 1939. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y Deml Heddwch ac un o’r adeiladau sydd bellach yn gartref i Lywodraeth Cymru i’w gweld isod.