Perfformio yng Nghymru

Cyhoeddwyd 09/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/10/2023   |   Amser darllen munudau

Nichola Hope a Sarah Hope

Noddir gan Jane Hutt AS

Dyddiadau: 29 Ebrill - 21 Mehefin 2023

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Mae’r arddangosfa hon yn amlygu detholiad o waith gan Nichola a Sarah Hope, gan gysylltu â byd perfformio a’r theatr. Mae’r gwaith yn cynnwys lluniau a dynnwyd yn ystod ymarferion a pherfformiadau, o’r syrcas i’r opera, gan ddangos cyfarfyddiadau’r artist ag estheteg dawns a pherfformio yng Nghymru.

Dechreuodd angerdd y chwiorydd at dynnu lluniau o symudiad a pherfformio yn Llundain, lle gwnaethant astudiaethau o amryw ddawnswyr a pherfformwyr. Yn ddiweddarach, cawsant fynediad at ymarferion a pherfformiadau yn Opera Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaethant gofnodi cannoedd o fomentau ar y llwyfan drwy gyfrwng lluniau a phaentiadau. Mae’r arddangosfa yn cynnwys rhai o’r gweithiau celf hyn, a wnaed mewn sawl opera a berfformiwyd yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru, Caerdydd. Hefyd yn rhan o’r arddangosfa mae gweithiau celf a wnaed yn y syrcas a chwmnïau theatr eraill yng Nghymru.

Mae’r gweithiau celf yn gofnod o fomentau chwareus, synhwyraidd a phruddglwyfus ar y llwyfan. Caiff cymeriad, osgo a symudiad eu mynegi mewn llinell a lliw. Mae’r gweithiau celf yn adrodd stori am berfformio yng Nghymru, gan ddatguddio archwiliadau mewn gwneud marciau, arsylwadau a chof yr artist.

Llun

© Nichola Hope