Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd
Daeth Ei Mawrhydi y Frenhines a'u Huchelderau Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw i ymuno ag Aelodau o’r Senedd a gwesteion i nodi Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd.
Gwylio Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd
Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod?
Amserlen yr Agoriad Swyddogol.
Gallwch weld yr amserlen lawr ar gyfer agoriad swyddogol chweched sesiwn y Senedd.
Pam ydym yn cynnal agoriad swyddogol?
Agorodd y Frenhines Gynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru ym 1999, gan agor pob sesiwn ar ôl yr etholiadau yng Nghymru ers hynny.
Hefyd, ymwelodd y Frenhines â’r Cynulliad yn 2006 i agor adeilad newydd y Senedd ar Ddydd Gwyl Dewi.
Fel arfer, caiff yr agoriad swyddogol ei gynnal yn fuan ar ôl etholiad, ond mae’r digwyddiad hwn wedi’i oedi eleni oherwydd cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws.
Perfformiadau
Cyfranwyr
Mwynhewch berfformiadau rhagorol gan gerddorion, dawnswyr, cantorion ac artistiaid o bob cwr o Gymru.
Alis Huws
Mae Alis Huws, Telynores Swyddogol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, yn gerddor unigol, cerddorfaol a siambr llawrydd. Mae hi wedi perfformio ar gyfer y Teulu Brenhinol ar nifer o achlysuron, ac wedi teithio’n eang, gan berfformio yn Ewrop, y Dwyrain Pell, Rwsia a Siapan.
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
O neuaddau tref a gofodau cymunedol yng Nghymru i lwyfannau a gwyliau Rhyngwladol, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu perfformiadau dawns i bob math o bobl ym mhob math o lefydd. Maent yn dawnsio dan do, y tu allan ac ar-lein.
Cwmni Theatr Hijinx
Mae Hijinx yn gwmni theatr proffesiynol sy’n gweithio i arloesi, creu a hyrwyddo cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth lunio cynyrchiadau rhagorol.
Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru
Nod Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yw dwyn sylw cynulleidfa mor eang â phosibl at bŵer, drama ac emosiwn pur opera, gan sicrhau bod byd opera yn agored i bawb.
Zillah Bowes
Mae Zillah Bowes yn artist amlddisgyblaeth sy’n creu darnau o waith ym meysydd ffilm, ffotograffiaeth a barddoniaeth. Mae ei gwaith wedi cael ei ddangos ledled y byd ar sawl llwyfan, yn cynnwys sinema, teledu, ar-lein ac mewn galerïau.
Tân Cerdd
Tân Cerdd yn perfformio ‘Ymuno’, a gyfansoddwyd yn arbennig gan Lily Beau ac Eadyth Crawford i nodi’r Agoriad Swyddogol.
Dathlu Cymru
Gwawr / Dawn
Mae’r artist Zillah Bowes wedi creu gwaith celf newydd ar gyfer yr Agoriad Swyddogol.
Mae’n cynnwys ffotograffau o bobl o bob cwr o Gymru, ynghyd â thirluniau a dynnwyd yn yr awyr agored cyn ar ar ôl i’r haul godi. Gan ddefnyddio golau’r wawr, mae Zillah yn nodi dechrau tymor newydd i’r Senedd yn ogystal â gobeithion a dyheadau pobl ar gyfer dyfodol Cymru wedi’r pandemig.
Bydd modd gweld ‘Gwawr’ ar-lein ar ddiwrnod yr Agoriad Swyddogol.
Hyrwyddwyr Cymunedol
Yn ystod y pandemig, mae nifer o bobl ledled Cymru wedi gwneud pethau eithriadol i sicrhau diogelwch a llesiant ein cymunedau.
Ar ddiwedd 2020, enwebodd Aelodau’r Bumed Senedd hyrwyddwyr o’u hetholaethau neu ranbarthau yr oeddent o’r farn eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith caled a’u hymrwymiad.