Trefn y Digwyddiadau: Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd

Cyhoeddwyd 04/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/10/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd Ei Mawrhydi y Frenhines, yn ogystal ag Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ac Ei Huchelder Brenhinol Duges Cernyw, yn ymweld â Chaerdydd ddydd Iau 14 Hydref ar gyfer agoriad swyddogol chweched sesiwn y Senedd.

Amserlen yr Agoriad Swyddogol

Y byrllysg yn cyrraedd

Wedi’u harwain gan aelod o dîm Diogelwch y Senedd, a fydd yn cario’r byrllysg, bydd Aelodau o’r Senedd a gwesteion allweddol yn mynd i mewn i adeilad y Senedd.

Salíwt Ynnau Frenhinol

I nodi bod Ei Mawrhydi y Frenhines wedi cyrraedd Cymru, bydd salíwt 21 gwn yn seinio y tu allan i’r Pierhead wrth i’r Parti Brenhinol gyrraedd Gorsaf Ganolog Caerdydd.

Y Parti Brenhinol yn cyrraedd

Wrth i’r Parti Brenhinol – Ei Mawrhydi y Frenhines, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ac Ei Huchelder Brenhinol Duges Cernyw – gyrraedd y Senedd, bydd ffanffer yn seinio.

Wrth i’r Parti Brenhinol fynd i mewn i’r Senedd, bydd grŵp o gantorion Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn rhoi perfformiad unigryw o ‘Ar Lan y Môr’.

Seremoni yn y Siambr

Yn ystod y seremoni agoriadol ffurfiol yn y Siambr (siambr drafod y Senedd), caiff y byrllysg seremonïol ei osod yn ei briod le i nodi bod y Chweched Senedd wedi’i hagor yn ffurfiol.

Bydd Ei Mawrhydi y Frenhines yn gwneud araith, cyn i Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, a Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, annerch y gynulleidfa.

Bydd Ei Mawrhydi yn llofnodi memrwn coffaol, i gyfeiliant Alis Huws, Telynores Swyddogol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

Wedyn, adroddir cerdd sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig ar gyfer yr achlysur, sef ‘Ein Llais’, gan Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru. Bydd dau o gyn-Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn darllen y gerdd.

Y Parti Brenhinol yn ymadael

Tân Cerdd yn perfformio ‘Ymuno’, a gyfansoddwyd yn arbennig gan Lily Beau ac Eadyth Crawford i nodi’r Agoriad Swyddogol.

Y Parti Brenhinol yn cwrdd â Hyrwyddwyr Cymunedol cyn ymadael â’r Senedd.