Dyddiad ac amser: Dydd Iau, 27 Hydref, 18:00
Lleoliad: Y Pierhead
£ Am ddim
Ynglŷn â’r digwyddiad hwn
Pan roedd y gwneuthurwr ffilmiau Liana Stewart yn tyfu i fyny yn Butetown, Caerdydd, ychydig iawn o fodelau rôl duon o Gymru oedd ar y teledu. Mae hi wedi bod eisiau gwneud ffilm ers tro byd sy'n dod â phobl o bob cwr o Gymru at ei gilydd i rannu eu profiadau nhw o beth mae'n ei olygu i fod yn ddu ac yn dod o Gymru. Mae hi bellach wedi llwyddo i wneud yr union beth hwnnw.
Ymunwch â ni ar gyfer dangosiad arbennig o Black and Welsh gyda’r cyfarwyddwr Liana Stewart a’r cynhyrchydd Catryn Ramasut. Byddwn yn trafod bywyd a gwaith Liana, a’i rheswm dros wneud ffilmiau, flwyddyn ers iddi ennill gwobr Bafta Cymru yn y categori Cyfarwyddwr: Ffeithiol.
Mae Black and Welsh hefyd yn cael ei ddangos yn y Senedd rhwng 8 Hydref – 29 Hydref.
Archebwch
chevron_right
Credyd llun: ie ie Productions