Mae’r Senedd yn dod i’r Urdd! Yn ystod hanner tymor mis Mai byddwn yng ngŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop i siarad am eich Senedd a’r newidiadau sydd i ddod yn 2026.
Ar y stondin fe welwch:
- Ein Map ‘Amdanaf i’ – Dewch i ddweud wrthym o ble rydych chi’n dod!
- Ardal chwarae i blant.
- Sesiynau gyda Phwyllgorau’r Senedd
- Wal graffiti gyda’n ‘Cwestiwn y Dydd’
- Dewch o hyd i Fflam y ddraig, sy’n cuddio ar ein stondin!
A mwy!
Hefyd ar y stondin yn ystod yr wythnos
Dyddiad | Sessiwn | Amser |
Dydd Llun 26 Mai |
Sesiwn Galw Heibio: Ymchwiliad i Gadw a Recriwtio Athrawon |
14.00
|
Dydd Mawrth 27 Mai |
Sesiwn Galw Heibio: Y Comisiwn Etholiadol, Cymru |
12.00
|
Dydd Iau 29 Mai |
Recordio Podlediad y BBC ‘Gwleidydda’ |
15.00 |
Dydd Gwener 30 Mai
|
Sesiwn Galw Heibio: Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Y Pwyllgor Cyllid |
11.00
13.30 |
Dydd Sadwrn 31 Mai |
Sesiwn Galw Heibio: Y Comisiwn Etholiadol, Cymru |
11.00 |