Sioe Frenhinol Cymru

Cyhoeddwyd 21/05/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/07/2025

Mae’r Senedd yn dod i Sioe Frenhinol Cymru! O 21 - 24 Gorffennaf byddwn yn Llanfair-ym-Muallt i siarad am eich Senedd a’r newidiadau sydd i ddod yn 2026.

Ar y stondin fe welwch:

  • Ein Map ‘Amdanaf i’ – Dewch i ddweud wrthym o ble rydych chi’n dod!
  • Ardal chwarae i blant.
  • Sesiynau gyda Phwyllgorau’r Senedd
  • Wal graffiti gyda’n ‘Cwestiwn y Dydd’
  • Dewch o hyd i Fflam y ddraig, sy’n cuddio ar ein stondin!

A mwy!

Hefyd ar y stondin yn ystod yr wythnos 

Dyddiad Sessiwn Amser

Dydd Llun 21 Gorffennaf

Sesiwn Galw Heibio: Y Pwyllgor Cyllid

 

Sesiwn Galw Heibio: Y Pwyllgor Safonau

11.30 - 12.20

 

 

13.00 - 14.00

Dydd Mercher 23 Gorffennaf

Sesiwn Galw Heibio: Y Comisiwn Etholiadol, Cymru

11.00 - 15.00