Gwybodaeth bwysig am wneud cais I gynnal digwyddiad

Cyhoeddwyd 04/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/04/2024   |   Amser darllen munudau

  • Ni fydd ceisiadau newydd yn cael eu hystyried fwy na un ar ddeg mis cyn y digwyddiad.  Bydd ceisiadau a gyflwynir mwy na un ar ddeg mis ymlaen llaw yn cael eu cadw ar ffeil ac yn cael eu hystyried un ar ddeg mis cyn y dyddiad y gofynnwyd amdano.
  • Dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau yw’r diwrnodau mwyaf poblogaidd, ac er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i wneud trefniadau ar gyfer eich dyddiad a'ch lleoliad dewisol, efallai y bydd angen i ni awgrymu dyddiad neu leoliad sy’n wahanol i’r hyn y gofynnwyd amdano ar eich ffurflen gais.
  • Rhaid i bob digwyddiad gael ei noddi gan Aelod o'r Senedd. Er mwyn gofyn i Aelod noddi eich digwyddiad, cysylltwch ag Aelod yma.
  • Darperir cymorth cynllunio digwyddiadau, cymorth clyweledol a chyfieithu ar y pryd fel rheol ar gyfer pob digwyddiad a gynhelir yn ystod ein horiau arferol.
  • Rhaid i bob deunydd cyhoeddusrwydd ddangos yn glir enw'r Aelod o’r Senedd sy'n noddi’r digwyddiad. Rhaid i chi gyflwyno'r holl wahoddiadau, hysbysiadau neu gylchlythyrau sy’n cyfeirio at y digwyddiad i'n Tîm Lleoliadau, yn lleoliadau@senedd.cymru, i'w cymeradwyo cyn eu defnyddio. Os na fyddwch yn cydymffurfio â'r cam hwn, gallai arwain at ganslo eich digwyddiad.

Trefnu bod Aelod yn noddi eich digwyddiad

  • I gael gwybod pwy sy'n eich cynrychioli, ewch i dudalen yr Aelodau neu cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
  • Fel arall, gallwch anelu eich digwyddiad at bwyllgor penodol – ewch i dudalen y pwyllgorau i weld rhestr o’r pwyllgorau a’r Aelodau o'r Senedd sydd ar bob pwyllgor.
  • I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â'r Tîm Lleoliadau yn lleoliadau@senedd.cymru neu ffoniwch ni yn uniongyrchol ar 0300 200 6208.​