Mannau digwyddiadau Tŷ Hywel

Cyhoeddwyd 29/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/08/2024   |   Amser darllen munudau

 

Ystafelloedd Cynadledda

Gellir cynnal digwyddiadau bach yn ein hystafelloedd cynadledda yn Nhŷ Hywel. Dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer seminar, lansiad adroddiad, darn sgwrsio neu ddigwyddiad rhwydweithio. 

Argaeledd: 

Dydd Mawrth - dydd Mercher: 18:00 – 21:30 – uchafswm o 60 o westeion, gan gynnwys hyd at 30 o westeion allanol. 

Ystafell Briffio’r Cyfryngau

Mae Ystafell Briffio’r Cyfryngau yn lleoliad perffaith i gynnal sesiwn friffio fer i Aelodau o’r Senedd. Gall briffiau gwmpasu mater neu achos penodol sy’n bwysig i’ch gwaith, lansiad prosiect neu adroddiad.

Argaeledd:

Dydd Llun - Dydd Gwener: 12:00 – 13:30, uchafswm o 50 o westeion.

 

I archebu ein hystafelloedd cynadledda neu ein hystafell friffio, dewiswch ‘seminar / briff’ pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais.

Siambr Hywel

Siambr Hywel yw hen siambr trafod y Senedd. Mae'n lleoliad unigryw i gynnal digwyddiadau yn Nhŷ Hywel. Mae wedi'i henwi ar ôl Hywel Dda, a wnaeth y cyfreithiau cyntaf ar gyfer Cymru yn y ddegfed ganrif. Ers i adeilad y Senedd agor yn 2006, mae Siambr Hywel wedi'i hadnewyddu a'i hail-agor fel siambr drafod bwrpasol ar gyfer pobl ifanc ac fel canolfan dysgu ryngweithiol. Siambr Hywel oedd y cyntaf o'i fath yn Ewrop. Ers ei lansiad yn 2009, mae wedi bod yn lleoliad poblogaidd ar gyfer addysgu, cynadleddau a darlithoedd.


Delfrydol ar gyfer:

  • Cynadleddau
  • Darlithoedd

Capasiti:

Fel darlithfa: 60
Mae'r ystafell yn gallu dal: 100

Mae Siambr Hywel ar gael fel lleoliad i ddigwyddiadau:

Dydd Llun a Dydd Gwener 09:30 –16:30
O Ddydd Mawrth i Ddydd Iau 17:30 –20:00

Mynediad

Mae Siambr Hywel yn gwbl hygyrch.