Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

Mannau digwyddiadau y Senedd

Cyhoeddwyd 01/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2024   |   Amser darllen munud

Mae'r Neuadd a'r Oriel wedi'u lleoli ar ddau lawr o amgylch y Siambr yng nghanol y Senedd.

Yn ystod oriau agor y Senedd, mae’r ddwy lefel ar agor i'r cyhoedd ac mae oriel gyhoeddus a siop goffi i ymwelwyr i fyny'r grisiau.

Gellir cynnal digwyddiadau yn y Neuadd neu'r Oriel o ddydd Llun i ddydd Gwener:

  • Diwrnod llawn 10:00 –15:00
  • Amser cinio: 12:00 - 14:00
  • Gyda’r nos: 18:00 – 20:00, pan fo’r Senedd ar gau i'r cyhoedd. (Dydd Mawrth – dydd Iau yn unig.)

Yn y Neuadd, mae llwyfan cwbl hygyrch pwrpasol sy’n edrych dros Fae Caerdydd, ac mae lle i hyd at 140 o westeion. Ar gyfer digwyddiadau llai, mae'r Oriel yn opsiwn perffaith ar gyfer trefniant llai ffurfiol.

Yn ddelfrydol ar gyfer:

  • Derbynfeydd
  • Perfformiadau
  • Digwyddiadau rhwydweithio
  • Stondinau gwybodaeth

Hygyrchedd:

Mae pob llawr yn y Senedd yn hygyrch.

 

Y Neuadd

Capasiti y Neuadd:

Seddi ar ffurf theatr: 140

Sefyll: 160  

Dimensiynau’r Neuadd:

15 x 9 metr

 

Yr Oriel

Capasiti yr Oriel:

Seddi ar ffurf theatr: 30

Sefyll: 120

Dimensiynau’r Oriel:

9 x 6 metr

Sylwch fod yr holl capasiti a ddangosir yn seiliedig ar y dodrefn lleiaf posibl yn yr ystafell. Gall y capasiti amrywio yn dibynnu ar weithgareddau eraill y Senedd.

Gallwn gynnig mwy o gapasiti drwy gyfuno’r ddau leoliad, a chaiff ceisiadau i wneud hyn eu hasesu fesul achos.