Mae'r Neuadd a'r Oriel wedi'u lleoli ar ddau lawr o amgylch y Siambr yng nghanol y Senedd.
Yn ystod oriau agor y Senedd, mae’r ddwy lefel ar agor i'r cyhoedd ac mae oriel gyhoeddus a siop goffi i ymwelwyr i fyny'r grisiau.
Gellir cynnal digwyddiadau yn y Neuadd neu'r Oriel o ddydd Llun i ddydd Gwener:
- Diwrnod llawn 10:00 –15:00
- Amser cinio: 12:00 - 14:00
- Gyda’r nos: 18:00 – 20:00, pan fo’r Senedd ar gau i'r cyhoedd. (Dydd Mawrth – dydd Iau yn unig.)
Yn y Neuadd, mae llwyfan cwbl hygyrch pwrpasol sy’n edrych dros Fae Caerdydd, ac mae lle i hyd at 140 o westeion. Ar gyfer digwyddiadau llai, mae'r Oriel yn opsiwn perffaith ar gyfer trefniant llai ffurfiol.
Yn ddelfrydol ar gyfer:
- Derbynfeydd
- Perfformiadau
- Digwyddiadau rhwydweithio
- Stondinau gwybodaeth
Hygyrchedd:
Mae pob llawr yn y Senedd yn hygyrch.
Y Neuadd
Capasiti y Neuadd:
Seddi ar ffurf theatr: 140
Sefyll: 160
Dimensiynau’r Neuadd:
15 x 9 metr
Yr Oriel
Capasiti yr Oriel:
Seddi ar ffurf theatr: 30
Sefyll: 120
Dimensiynau’r Oriel:
9 x 6 metr
Sylwch fod yr holl capasiti a ddangosir yn seiliedig ar y dodrefn lleiaf posibl yn yr ystafell. Gall y capasiti amrywio yn dibynnu ar weithgareddau eraill y Senedd.
Gallwn gynnig mwy o gapasiti drwy gyfuno’r ddau leoliad, a chaiff ceisiadau i wneud hyn eu hasesu fesul achos.
Ystafell Briffio Cyfryngau
Mae Ystafell Briffio’r Cyfryngau yn lleoliad perffaith i gynnal sesiwn friffio fer i Aelodau o’r Senedd. Gall briffiau gwmpasu mater neu achos penodol sy’n bwysig i’ch gwaith, lansiad prosiect neu adroddiad.
Argaeledd:
Dydd Llun - Dydd Gwener: 12:00 – 13:30, uchafswm o 50 o westeion.
I archebu ein hystafelloedd cynadledda neu ein hystafell friffio, dewiswch ‘seminar / briff’ pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais: Trefnu gweithgarwch neu ddigwyddiad yn y Senedd.